13eg Raglen ar gyfer Diwygio’r Gyfraith – galw am syniadau

Sefydlwyd Comisiwn y Gyfraith gan Ddeddf Comisiynau’r Gyfraith 1965, i bwrpas hyrwyddo diwygio’r gyfraith. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Gomisiwn y Gyfraith dderbyn ac ystyried cynigion ar gyfer diwygio’r gyfraith. Mae’n rhaid i Gomisiwn y Gyfraith hefyd baratoi a chyflwyno Rhaglenni cyfnodol i’r Arglwydd Ganghellor, sy’n archwilio gwahanol ganghennau o’r gyfraith gyda golwg ar ddiwygio.

Er mwyn sicrhau bod ein gwaith mor berthnasol a gwybodus â phosib, mae Comisiwn y Gyfraith yn ymgynghori’n eang wrth lunio rhaglenni o ddiwygio’r gyfraith. Rydym bellach yn ymgynghori ar gyfer ein 13eg Rhaglen o Ddiwygio’r Gyfraith. Er mwyn llunio ein Rhaglen, rydym yn chwilio am awgrymiadau ynghylch pa feysydd o’r gyfraith fyddai’n elwa o ddiwygio.

Pa fathau o broblemau y byddwn yn ymchwilio iddynt?

Nid yw pob achos o ddiwygio’r gyfraith yn addas ar gyfer Comisiwn anwleidyddol ac annibynnol y Gyfraith. Gallwn gynnig diwygio cyfreithiau neu feysydd y gyfraith sydd yn:

  • achosi annhegwch sylweddol;
  • wahaniaethol iawn neu’n anghymesur o ddrud; neu
  • a achosir gan gyfreithiau neu bolisïau sy’n gymhleth, yn anodd eu deall neu sydd yn groes i safonau modern.

Sut y byddwn yn penderfynu pa brosiectau i’w dewis?

Pan fyddwn yn ystyried syniad, byddwn yn gofyn:

  • Pa mor bwysig yw diwygio: i ba raddau y mae’r gyfraith yn anfoddhaol?
  • Beth yw manteision posibl diwygio?
  • Ai Comisiwn y Gyfraith yw’r corff mwyaf addas i gynnal y prosiect?
  • A oes adnoddau angenrheidiol ar gael ar gyfer y prosiect diwygio?
  • A fyddai ar y prosiect angen cyfraniad gan Lywodraeth Cymru a /neu Gomisiynau Cyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon?

Cyn y gallwn gynnwys prosiect yn ein Rhaglen, mae ein Protocol gyda’r Llywodraeth hefyd yn gofyn i ni gael cadarnhad gan Adran berthnasol y Llywodraeth fod ganddi “fwriad difrifol” i fwrw ymlaen gyda diwygio’r gyfraith.

Beth rydym yn ei ofyn oddi wrthych chi?

Os ydych yn credu bod problem mewn un o feysydd y gyfraith a fyddai’n elwa o ddiwygio, dywedwch wrthym am y peth. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a roddwch i asesu a oes potensial ar gyfer prosiect diwygio’r gyfraith.

Rydym wedi nodi rhai o feysydd y gyfraith y mae ein profiad a’n trafodaeth gyda rhanddeiliaid yn awgrymu efallai y bydd angen eu diwygio. Gallent fod yn brosiectau.

Prosiectau diwygio posib eraill

Mae Comisiynwyr y Gyfraith wedi nodi rhai meysydd o’r gyfraith y gallai fod angen eu diwygio, a pha rai allai fod yn brosiectau posib ar gyfer y Rhaglen. Byddem yn ddiolchgar iawn hefyd am eich barn ar y rhain.

Dyddiad cau

Anfonwch eich syniadau atom ni erbyn dydd Llun 31 Hydref 2016 i programme@lawcommission.gsi.gov.uk.

 

Project details

Commissioner

Sir David Bean