Y gyfraith yng Nghymru – ei gwneud yn gliriach, yn fwy modern ac yn haws ei defnyddio

Drwy y Deyrnas Unedig gall y gyfraith fod yn anodd i weithwyr proffesiynol a’r cyhoedd gael gafael arno a’i deall. Mae swm y ddeddfwriaeth yng Nghymru a Lloegr, nifer y diwygiadau a’r ffordd y mae deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno, yn ei gwneud yn gynyddol anodd gwybod beth yw’r gyfraith a beth mae’n ei olygu. Yng Nghymru, mae datganoli wedi gwneud pethau hyd yn oed yn fwy cymhleth.

Mewn ymgynghoriad sy’n agor ar 9 Gorffennaf mae Comisiwn y Gyfraith yn gofyn beth ellir ei wneud i symleiddio deddfwriaeth yn ymwneud â Chymru a’i gwneud yn fwy hygyrch.

Mae datblygiad graddol datganoli yng Nghymru wedi dwysau’r anawsterau hyn.

Ceir dryswch yn aml ynghylch pwy sy’n gyfrifol am beth. Mae swyddogaethau dan lawer o Ddeddfau Seneddol wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru, ond ni fydd hyn yn amlwg yn y Ddeddf wreiddiol ac fe allai ymddangos bod y pŵer yn parhau i fod ym meddiant yr Ysgrifennydd Gwladol.

Mae’r darlun yn cael ei gymhlethu ymhellach gan y cyflymder y mae rhannau sylweddol o’r gyfraith berthnasol yng Nghymru – fel addysg, iechyd a thai – yn dargyfeirio oddi wrth y gyfraith yn Lloegr.

Yn ei ymgynghoriad, mae Comisiwn y Gyfraith yn gofyn beth ellir ei wneud i sicrhau bod y gyfraith bresennol sy’n berthnasol i Gymru yn haws ei defnyddio a’i deall. A allai hyn gynnwys, er enghraifft, cyfundrefnu a chydgrynhoi? Mae’r Comisiwn hefyd yn gofyn:

  • Pa fesurau newydd y gallai Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu rhoi ar waith i wella systemau ar gyfer deddfu?
  • A oes angen sefydlu rhaglen o gydgrynhoi neu gyfundrefnu’r Gyfraith sy’n gymwys yng Nghymru?

Mae’r Comisiwn hefyd yn ymgynghori ar fesurau a allai wneud y gyfraith yn fwy hygyrch ac ar gael i’r cyhoedd, fel nodiadau esboniadol ar gyfer deddfwriaeth, gwerslyfrau cyfraith Cymru, a’r angen am adnodd ar-lein cynhwysfawr, rhad ac am ddim a chyfredol.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn ystyried materion yn ymwneud â chreu a dehongli deddfwriaeth mewn dwy iaith.

Dywedodd Syr David Lloyd Jones, Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith: “Er mwyn i’r gyfraith fod yn deg, rhaid bod modd ei deall. Rydym ar bwynt allweddol yn natblygiad y gyfraith sy’n ymwneud â Chymru ar hyn o bryd. Mae gennym gyfle gwych i baratoi’r ffordd ar gyfer deddfwriaeth gliriach, symlach, mwy modern a mwy hygyrch, sydd ar gael yn hawdd ac am ddim, ac yn hawdd ei deall gan weithwyr proffesiynol a’r cyhoedd.

“Wrth i’r Cynulliad gael pwerau deddfu mwy eang, dyma’r amser i ni ystyried yn ofalus sut gall y Llywodraeth a’r system gyfreithiol gydweithio i wneud cyfraith dda ar gyfer Cymru.”

Mae’r ymgynghoriad yn agored tan 9 Hydref 2015. Mae papur ymgynghori a rhagor o wybodaeth ar gael ar lawcom.gov.uk

 

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae Comisiwn y Gyfraith yn gorff annibynnol anwleidyddol, a sefydlwyd gan y Senedd ym 1965 i adolygu holl gyfreithiau Cymru a Lloegr, ac argymell diwygiadau yn ôl yr angen.
  2. Am ragor o wybodaeth am y prosiect hwn, ewch i lawcom.gov.uk
  3. Cyfeiriwch holl ymholiadau’r wasg at:
    Phil Hodgson, Pennaeth Cysylltiadau Allanol: 020 3334 3305
    Jackie Samuel: 020 3334 3648
    E-bost: communications@lawcommission.gsi.gov.uk