Comisiwn y Gyfraith yn argymell system dribiwnlysoedd unedig yng Nghymru

Dylid cyflwyno system dribiwnlysoedd unedig newydd yng Nghymru i ddisodli’r tribiwnlysoedd ar wahân fel ag y maent ar hyn o bryd, yn ôl cyhoeddiad Comisiwn y Gyfraith heddiw [9 Rhagfyr 2021].

Corff yw tribiwnlys sydd wedi’i sefydlu i ddatrys anghydfodau sydd fel arfer yn deillio o benderfyniadau cyrff cyhoeddus. Maen nhw’n darparu cyfiawnder i rai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas. Er hyn, mae rheolau a gweithdrefnau tribiwnlysoedd datganoledig Cymru yn gymhleth ac yn anghyson, ac mewn rhai amgylchiadau, nid ydynt yn addas at y diben.

Er mwyn gwella’r ffordd maen nhw’n cael eu gweinyddu, mae Comisiwn y Gyfraith yn argymell tribiwnlys newydd, Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, a fyddai’n disodli’r tribiwnlysoedd presennol yng Nghymru. Byddai’n cael ei rannu i siambrau, megis siambr eiddo a siambr addysg.

Yn rhan o’r system newydd, mae’r Comisiwn hefyd yn argymell:

  • Creu Tribiwnlys Apêl i Gymru, er mwyn clywed apeliadau o Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru.
  • Creu Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd a fydd yn gyfrifol am adolygu a diweddaru gweithdrefnau.
  • Creu adran anweinidogol a fydd ar wahân i Lywodraeth Cymru ac yn gyfrifol am reoli’r system tribiwnlysoedd, i ddisodli’r Uned Tribiwnlysoedd Cymru presennol.

Dywedodd Nicholas Paines CF, Comisiynydd Cyfraith Gyhoeddus a’r Gyfraith yng Nghymru:

“Mae’r system dribiwnlysoedd yng Nghymru yn gymhleth ac wedi dyddio. Nid yw’n bodloni anghenion y cyhoedd yng Nghymru mewn modd effeithiol. Mae’n amlwg bod angen trawsnewid.

“Byddai ein hargymhellion yn creu un system dribiwnlysoedd unedig sy’n addas ar gyfer y 21ain Ganrif ac yn gallu addasu i newidiadau’r dyfodol.”

Problemau gyda thribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru

Datblygodd y system dribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr ar hap, gyda thribiwnlysoedd yn cael eu creu lle bynnag yr oedd adran unigol yn y llywodraeth yn credu bod angen. Sefydlwyd pob tribiwnlys unigol i daclo problem benodol, gan arwain at system heb ei gynllunio ac anhyblyg. Cafodd tribiwnlysoedd eu datblygu ar adegau gwahanol ac ar gyfer dibenion gwahanol, gan arwain at fylchau ac anghysondeb yn y ddeddfwriaeth. Roedd prosesau a gweithdrefnau (megis y rheolau ynghylch penodi barnwyr, neu greu rheolau gweithdrefnol) yn amrywio o un tribiwnlys i un arall.

Yn 2007, bu i Ddeddf Seneddol y DU resymoli llawer o’r tribiwnlysoedd sy’n gweithio yn y Deyrnas Unedig neu rannau ohoni i un strwythur. Ond cafodd tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru eu hanwybyddu, gan adael yr hen system dameidiog ar ôl. Mae creu swyddfa Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru wedi bod yn effeithiol i uno’r tribiwnlysoedd yng Nghymru; ond does dim modd gwneud popeth sydd ei angen heb ddiwygio’r strwythurau cyfreithiol ategol.

Mae’r diffyg cydlyniad wedi atal y system dribiwnlysoedd rhag datblygu mewn ymateb i anghenion newidiol ei ddefnyddwyr. Nododd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru fod hyn yn broblem yn 2019, gan argymell y dylid gwneud defnydd mwy o’r tribiwnlysoedd yn neddfwriaeth Cymru i’r dyfodol.

Argymhellion Comisiwn y Gyfraith

Mewn ymateb i’r problemau hyn, mae Comisiwn y Gyfraith wedi cyflwyno sawl argymhelliad. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Disodli tribiwnlysoedd presennol Cymru gyda Thribiwnlys Haen Gyntaf Cymru unedig, a fydd yn cael ei rannu i siambrau. Byddai’r system hon yn fwy hyblyg ac yn gallu ymateb ac addasu i newid yn y dyfodol.
    • Byddai’r system yn cynnwys Tribiwnlys Prisio Cymru sy’n annibynnol ar hyn o bryd, a phaneli apeliadau ysgolion.
    • Byddai Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru yn cynnwys – ymysg eraill – siambrau eiddo, addysg, iechyd meddwl a’r Gymraeg.
  • Creu Tribiwnlys Apêl i Gymru, i glywed apeliadau gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf.
    • Byddai hefyd llwybr apelio newydd o baneli apeliadau derbyn i ysgolion i’r siambr addysg.
  • Creu pwyllgor gweithdrefnau tribiwnlysoedd newydd, a fydd yn gyfrifol am adolygu a diweddaru’r rheolau gweithdrefnol yn rheolaidd i sicrhau eu bod nhw’n ymateb i amgylchiadau newidiol, ac yn parhau i fod yn gyfredol.
  • Sicrhau bod y system newydd yn gweithredu ar wahân i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys:
    • Creu Gwasanaeth Gweinyddiaeth Tribiwnlysoedd Cymru newydd, i ddisodli Uned Tribiwnlysoedd Cymru presennol. Dylai’r adran fod yn un anweinidogol, gyda rôl gynyddol i farnwyr.
    • Dyletswydd statudol newydd ar Weinidogion Cymru a phawb sy’n gyfrifol am weinyddu tribiwnlysoedd i gynnal annibyniaeth y tribiwnlysoedd.

Camau nesaf

Mae’r adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Senedd. Nawr, bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu a ddylid gweithredu’r newidiadau, a sut.