Mae Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Gyfraith 2016-17 wedi’i gyhoeddi.

Mae’n datgelu blwyddyn gadarnhaol arall ar gyfer y corff diwygio cyfraith annibynnol, gyda:

  • Phedair statud newydd yn seiliedig ar argymhellion Comisiwn y Gyfraith – Rhan 5 Deddf Menter 2016, Rhan 6 Deddf Plismona a Throsedd 2017, Deddf Eiddo Deallusol (Bygythiadau Anghyfiawn) 2017, a Rhan 2 Deddf yr Economi Ddigidol 2017.
  • Y niferoedd uchaf o argymhellion ar gyfer yr ymgynghoriad ar ein 13eg Rhaglen o Ddiwygio’r Gyfraith – mwy na 1300 o ymatebion yn cynnwys 220 o awgrymiadau unigol.
  • Ffigurau wedi’u diweddaru sy’n dangos bod saith o bob 10 (69%) adroddiad Comisiwn y Gyfraith wedi’u gweithredu’n llawn neu’n rhannol dros yr hanner canrif diwethaf.
  • Penodiad ein Prif Weithredwr, Phil Golding, yn ystod y cyfnod adrodd.
  • Penodiad ail aelod Bwrdd anweithredol, sef Cyfarwyddwr y Sefydliad dros Lywodraeth (‘the Institute for Government’), Bronwen Maddox.

Dywedodd Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith, Syr David Bean:

“Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn un hynod lwyddiannus i’r Comisiwn gan fod pedwar argymhelliad arall wedi’u hychwanegu at y llyfr statud.

“Mae’r ymgynghoriad ar ein 13eg Rhaglen – yn cynnwys rhyw 1300 o ymatebion – hefyd wedi dangos yn glir awydd parhaus y cyhoedd i ddiwygio’r gyfraith.

“Er gwaethaf gweithredu yn y cyfnod ansicr hwn gyda phwysau cyllidebol sylweddol, byddwn yn adeiladu ar y brwdfrydedd hwn er mwyn parhau i wneud y gyfraith yn syml, yn fodern ac yn deg.”

Lawrlwythwch Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Gyfraith 2016-17.