Adroddiad blynyddol 2019-20 wedi’i gyhoeddi

Mae Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Gyfraith 2019-20 wedi’i gyhoeddi.

Mae’r stori hon ar gael yn y Gymraeg hefyd (This story is also available in English).

Mae’r adroddiad blynyddol yn amlygu’r gwaith mae’r Comisiwn wedi’i wneud yn ystod y deuddeg mis diwethaf, fel:

  • Cynnal y seithfed ddarlith Scarman lle clywsom gan y Farwnes Hale, Arlywydd y Goruchaf Lys ar y pryd a siaradodd am drideg mlynedd o’r Ddeddf Plant
  • Yn croesawu’r Athro Penney Lewis, Comisiynydd y Gyfraith Trosedd newydd, a’r Athro Sarah Green, y Comisiynydd Masnachol a’r Gyfraith Gyffredin newydd i Gomisiwn y Gyfraith; cychwynodd y ddau ohonynt yn 2020. Fe wnaethom hefyd groesawu dau Aelod Bwrdd Anweithredol newydd, Joshua Rozenberg a’r Farwnes Deech.
  • Gosod chwe adroddiad gydag argymhellion ar gyfer diwygio yn y Senedd, gan gynnwys Atal Gwyngalchu Arian, Gweithredu Dogfennau’n Electronig a’r Gyfraith Etholiadol.
  • Cyhoeddi dau ymgynghoriad – yr ail o ddau ar gerbydau awtomatig, ac un ar y system gwarantau canolraddol.

 

Meddai Syr Nicholas Green, Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith:

“Er gwaethaf heriau’r flwyddyn ddiwethaf, bu’r deuddeg mis diwethaf hyn yn gyflawniad i Gomisiwn y Gyfraith.

“Bydd yr argymhellion yr ydym wedi’u gwneud yn symleiddio ac yn gwella’r gyfraith mewn nifer o feysydd hanfodol. Byddant yn gwneud gwahaniaeth go iawn o ran mynd i’r afael â gwyngalchu arian, symleiddio cyfreithiau mewnfudo a gwella effeithiolrwydd tribiwnlysoedd cyflogaeth. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym hefyd wedi cychwyn ar rai prosiectau newydd sylweddol iawn.

“Hoffwn ddiolch i bawb yn y Comisiwn am eu gwaith caled ac hefyd i’r rhai o’r tu allan i’r sefydliad sydd wedi cyfrannu at ein gwaith diwygio’r gyfraith trwy ddarparu eu cefnogaeth, eu barnau a’u harbenigedd.”

 

Lawrlwythwch Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Gyfraith 2019-20.