Argymhellion i gwella diogelwch tomennydd glo yng Nghymru

Bydd argymhellion Comisiwn y Gyfraith ar gyfer gyfundrefn diogelwch newydd yn helpu i amddiffyn yn erbyn ystod o fygythiadau i ddiogelwch tomennydd glo ac yn sicrhau bod tomennydd i gyd yn cael eu trin mewn ffordd gyson.

Mae Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr wedi cyhoeddi adroddiad heddiw yn argymell gyfundrefn arfaethedig newydd ar ddiogelwch tomennydd glo yng Nghymru bydd yn disodli hen gyfreithiau sydd wedi dyddio a gwella sut fydd ystod o risgiau sy’n ymwneud â thomennydd glo yn cael eu rheoli. Mae’r newidiadau sydd wedi eu cynnig yn cynnwys:

  • Dull rhagweithiol a chyfannol i ddiogelwch tomennydd glo: bydd hwn yn caniatáu ymyrraeth gynharach i atal problemau rhag datblygu, helpu i daclo problemau tu hwnt i ansefydlogrwydd tomennydd ac amddiffyn yn erbyn goblygiadau o newid hinsawdd yn y dyfodol.
  • Awdurdod goruchwylio gyda chyfrifoldeb ar gyfer diogelwch pob tomen glo anweithredol. Mae cynigion ar gyfer swyddogaethau’r awdurdod yn cynnwys:
    • Ffurfio a chynnal cofrestr o bob tomen anweithredol yng Nghymru
    • Trefnu ar gyfer archwiliadau o domennydd a chreu cynlluniau rheoli tomennydd
    • Dynodi tomennydd fel mecanwaith i flaenori gwaith diogelwch ar y tomennydd glo gradd uwch gyda mwy o gyfranogiad o’r awdurdod goruchwylio

Dywedodd Nicholas Paines CF, Comisiynydd Cyfraith Gyhoeddus yng Nghomisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr:

“Mae’r cyfreithiau sy’n llywodraethu tomennydd glo yng Nghymru yn dyddio o oes gynharach, ac nid ydynt bellach yn cynnig offer digonol i reoleiddio gwaddol tomennydd glo yng Nghymru. Dim ond lleiafrif o domennydd sydd â’r potensial i fod yn beryglus, ond mae angen deddfwriaeth newydd i alluogi i domennydd cael eu monitro’n effeithlon, i allu cwblhau gwaith ataliol i osgoi perygl a gwaith adfer i leihau unrhyw risgiau presennol.”

“Rydym yn meddwl bydd ein diwygion arfaethedig yn gwella rheoli tomennydd yn sylweddol, yn enwedig y tomennydd gradd uchaf.”

 

Dyfyniad Llywodraeth Cymru

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James:

“Hoffwn ddiolch i Gomisiwn y Gyfraith am yr holl waith sydd wedi arwain at gyhoeddi adroddiad heddiw.”

“Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth yn ystod tymor presennol y Senedd er mwyn sicrhau bod tomenni glo yn fwy diogel ac mae’r adroddiad hwn yn cynnwys tystiolaeth werthfawr i’r perwyl hwn.”

“Rwy’n edrych ymlaen at ystyried yr argymhellion a byddaf yn cyflwyno diweddariad yr wythnos nesaf.”

Y sefyllfa bresennol

Mae tomen glo yn bentwr o ddeunydd gwastraff a dynnwyd o’r ddaear yn ystod mwyngloddio am lo. Ar draws Cymru, mae yna nifer bach iawn o domennydd sy’n gysylltiedig â mwyngloddiau glo gweithredol, ond bron i 2,500 o domennydd anweithredol.

Mae’r rhain yn cynnwys peryglon o:

  • Ansefydlogrwydd a llithriadau tomennydd glo: Gall llithriadau cael eu hachosi gan lawiad trwm a/neu ddraeniad gwael. Mae glawiad cynyddol drymach wedi’i achosi gan newid hinsawdd wedi cynyddu’r risg o lithriadau tomennydd.
  • Llifogydd: gall tomennydd achosi neu gyfrannu at lifogydd.
  • Llygredd: gall draeniad o domennydd gollwng llygryddion i’r amgylchedd sy’n gallu achosi ystod o niweidion i gynefinoedd lleol a bywyd gwyllt.
  • Ymlosgiad digymell: gall tomennydd glo ymlosgi’n ddigymell ac aros ar dân am flynyddoedd. Gall hyn achosi ymsuddiant a ffurfio gwactodau cudd allai achosi cwymp, ac mae trin tomennydd sydd yn llosgi yn beryglus.

Problemau gyda’r gyfraith bresennol

Cafodd y Ddeddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomennydd) 1969 ei ymddeddfu yn dilyn ymchwiliad mewn i drychineb Aberfan yn 1966. Bryd hynny, roedd y diwydiant glo yn weithredol ac nid oeddynt yn meddwl bod tomennydd glo anweithredol yn broblem fawr. Mae bron bob tomen yng Nghymru nawr yn anweithredol, ac mae cynnydd mewn arddwyster glawiad o ganlyniad i newid hinsawdd yn cynyddu’r risg o ansefydlogrwydd, fel y dangosir gan y llithriadau tomennydd digwyddodd yng Nghymru yn Chwefror 2020 yn dilyn Stormydd Ciara a Dennis. Mae deddfwriaeth 1969 bellach wedi dyddio ac nid ydyw’n addas at ei bwrpas. Nid ydyw’n effeithlon i reoleiddio diogelwch tomennydd glo anweithredol mewn ffordd gyfannol. Mae angen diwygiad er mwyn lleihau’r risg o ddigwyddiadau peryglus – yn enwedig llithriadau tomen glo.

Mae problemau gyda’r ddeddfwriaeth yn cynnwys:

  • Mae’r pwerau wedi eu creu gan y Ddeddf yn ddarniog ar draws awdurdodau lleol, gan arwain at safonau diogelwch a dosbarthiadau risg anghyson.
  • Nid oes unrhyw fecanwaith i flaenoriaethu’r tomennydd glo gradd uchaf i sicrhau eu bod yn cael eu rheoleiddio fel mater brys.
  • Nid oes unrhyw ddyletswydd gyffredinol i sicrhau diogelwch tomennydd glo ac nid oes gan awdurdodau lleol pwerau i ymyrryd os oes pryderon am sefydlogrwydd tomen.
  • Does dim pŵer i ymgymryd â gwaith cynnal a chadw ataliol cyn bod tomen yn dod yn berygl.

Argymhellion yn fanwl

I wella’r ffordd mae tomennydd glo yn cael ei rheoleiddio a’u cynnal, ac i leihau’r risg o ddigwyddiadau peryglus, mae Comisiwn y Gyfraith yn cynnig cread fframwaith rheoleiddio newydd. Fe fydd hyn yn hyrwyddo cysondeb yn y rheoliad o domennydd glo ar draws y wlad ac yn osgoi perygl trwy gyflwyno dull rhagweithiol yn hytrach na dulliau adweithiol.

Bydd y fframwaith rheoliadol newydd yn cyflwyno:

  • Un awdurdod goruchwylio fydd â dyletswydd i oruchwylio’r rheoliad o bob tomen anweithredol, sy’n gallu monitro pob tomen anweithredol a sicrhau cydymffurfiaeth gyda gofynion rheoleiddiol i safon gyson dros Gymru.
  • Cofrestr tomennydd, wedi’i ffurfio a chynnal gan yr awdurdod goruchwylio bydd yn cynnwys ystod eang o wybodaeth yn cynnwys risgiau bosib sy’n gysylltiedig gyda bob un o’r tomennydd anweithredol.
  • Archwiliadau o bob un tomen ar gyfer y pwrpas o greu asesiad risg a dylunio cynllun rheoli tomen ac yn cynnwys y risg o lithriadau tomennydd, llifogydd, llygredd ac unrhyw risgiau arall.
  • Cytundebau cynnal a chadw a gorchmynion ar gyfer tomennydd risg is i sicrhau’r bod y cynnal a chadw gofynnol i atal y tomen rhag dod yn berygl yn cael ei wneud..
  • Ar gyfer y tomennydd glo sydd wedi eu dynodi yn risg uwch, cyfundrefn ddiogelwch uwch gyda mwy o gyfranogiad gan yr awdurdod goruchwylio i reoli’r tomen a lleihau’r posibilrwydd o ddigwyddiadau peryglus sylweddol

Camau nesaf

Gosodwyd yr adroddiad o flaen y Senedd. Bydd Llywodraeth Cymru yn dewis os i weithredu’r argymhellion.