Rydym wedi nodi rhai meysydd o’r gyfraith y mae ein profiad a’n trafodaethau â rhanddeiliaid yn awgrymu y gallai fod angen eu diwygio. Gallent fod yn brosiectau posib ar gyfer y Rhaglen. Hoffem glywed eich barn ar y rhain, a pha un a ydych chi o’r farn y dylent fod yn rhan o’n gwaith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Atafaelu

Mae gan y gyfraith ar atafaelu elw yn sgil troseddu enw drwg am fod yn anodd i’w chymhwyso a’i gorfodi. A ellid ei symleiddio a’i gwneud yn fwy effeithiol?

Mae’r gyfraith ar atafaelu elw ymddygiad troseddol wedi newid yn sylweddol ac yn aml dros y tri degawd diwethaf. Y brif ffynhonnell yn awr yw Ddeddf Elw Troseddau 2002 (PoCA), ond mae’r Ddeddf honno wedi’i diwygio dro ar ôl tro, yn fwyaf diweddar drwy Bennod 1 Deddf Troseddau Difrifol 2015. Mae’r gyfraith yn y maes hwn yn enwog am fod yn anodd ei chymhwyso a’i gorfodi. Mae yna o leiaf 2 brif achos am y cymhlethdodau hyn:

  • Cymhlethdod a natur drwsgl y drefn PoCA y mae’n rhaid ei hystyried gan lysoedd sy’n cael eu hwynebu gan gais am orchymyn a allai arwain at gyfreitha hirfaith ynghylch gwneud gorchmynion. Roedd ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Rhagfyr 2013 yn amcangyfrif mai cyfanswm cost flynyddol gwrandawiadau llys ac apeliadau ar orchmynion atafaelu oedd £31.8 miliwn.
  • Tynnwyd sylw at aneffeithlonrwydd prosesau gorfodi a’r diffyg disgresiwn sydd ar gael i asiantaethau gorfodaeth a’r llysoedd pan ddaw yn fater o orfodi gorchmynion ar ôl iddynt gael eu gwneud. Fel y nododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ddiweddar “mae llunio penderfyniadau ynghylch defnyddio gorchmynion atafaelu yn syrthio ar dros 160 o asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac erlyn unigol” Roedd ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ym mis Rhagfyr 2013 yn amcangyfrif mai cyfanswm cost flynyddol gorfodi atafaelu oedd £3.2 miliwn.

Mae cymhlethdod y gyfraith yn chwedlonol. Hyd yn oed ar ôl ystyriaeth fanwl gan y Goruchaf Lys yn R v Waya (Terry) [2012] UKSC 51, mae’r gyfraith yn parhau i fod yn aneglur. Effaith y penderfyniad hwn oedd bwrw amheuaeth ar lawer o’r gyfraith achosion a oedd wedi tyfu o amgylch PoCA dros y degawd blaenorol, ac mae’r Goruchaf Lys wedi clywed pum apêl arall ar fater atafaelu ers Waya. Mae ffracsiwn siomedig o fach o gyfanswm yr arian y gorchmynnwyd iddo gael ei dalu o dan orchmynion atafaelu wedi cael ei gasglu. Ym Mawrth 2016 cyhoeddodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ffigurau oedd yn dangos dyled heb ei thalu ar orchmynion atafaelu heb eu talu, ym mis Medi 2015, o £1.61 biliwn (cynnydd o 11% ar y flwyddyn flaenorol). Datgelodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod y swm sy’n ddyledus gan droseddwyr yn parhau i gynyddu, gyda chyfanswm yr arian sy’n ddyledus erbyn hyn yn £1.91 biliwn ar ddiwedd Mawrth 2016 a bod Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn amcangyfrif mai dim ond 10% o gyfanswm y ddyled sy’n gasgladwy yn realistig.

Yn aml, nid oes gan ddiffynyddion sy’n wynebu gorchmynion atafaelu’r modd i’w talu. Ond mae’n gallu bod yn eithriadol o anodd i’r llysoedd benderfynu bod asedau diffynnydd yn annigonol i dalu gorchymyn o dan y darpariaethau cyfredol. Fel arfer nid oes gan y llysoedd unrhyw ddewis ond gosod y ddedfryd ddiofyn orfodol, ac ar ôl hynny mae’r siawns o gasglu’r arian yn llwyddiannus yn dirywio’n sylweddol. Dim ond 2% o orchmynion a gafodd eu talu’n llawn mewn achosion lle cafodd y ddedfryd ddiofyn ei gosod yn 2012. Dylai trefn atafael fod â diben syml, sef cymryd asedau a gafaelwyd ar gam oddi ar y rhai a gafwyd yn euog o drosedd, a dylid gallu eu cymhwyso a’u deall yn y llysoedd troseddol prysur gan ymarferwyr, barnwyr ac yn wir diffynyddion sy’n cynrychioli eu hunain. Mae’r gyfraith bresennol yn amlwg yn methu yn hynny o beth, a hefyd mae’n methu’n ymarferol yn ei phwrpas o dynnu eu hasedau oddi ar y rhai a gafwyd yn euog o droseddau. Rydym yn croesawu barn ymgyngoreion ynghylch a fyddai diwygio cyfraith atafaelu yn brosiect gwerth chweil i Gomisiwn y Gyfraith ei gyflawni, ac os felly, pa agweddau y dylid eu blaenoriaethu. Fel y sylwodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ddiweddar, nid yw’r gyfraith bresennol yn ei “gwneud yn eglur ai amharu ar drosedd neu gasglu asedau troseddwyr yw prif amcan gorchmynion atafaelu.”

Beth yw eich barn chi?

Croesawn farn yr ymgyngoreion ar b’un a fyddai diwygio’r gyfraith atafaelu yn brosiect gwerth chweil i Gomisiwn y Gyfraith ei gyflawni, ac felly, pa agweddau ddylai gael eu blaenoriaethu. Defnyddiwch y ffurflen hon i anfon eich sylwadau atom ni ar y prosiect posib hwn drwy e-bostio programme@lawcommission.gsi.gov.uk.

Dychwelyd at y prosiectau a awgrymwyd gan Gomisiwn y Gyfraith