Comisiwn y Gyfraith yn lansio diwygiadau i gyfraith cynllunio yng Nghymru

Mae Comisiwn y Gyfraith wedi cyhoeddi adroddiad eang ei gwmpas sy’n cynnig dros 190 o ddiwygiadau technegol i gyfraith cynllunio fel y mae’n gymwys yng Nghymru. Bydd hyn, gobeithio, yn arwain at Ddeddf Cynllunio newydd, fel canolbwynt Cod Cynllunio newydd i Gymru.

(English)

Medd Nicholas Paines CF, Comisiynydd Cyfraith Gyhoeddus:

“Mae cyfraith cynllunio yn syml mewn egwyddor, ond yn gymhleth tu hwnt yn ymarferol. Mae’r Adroddiad hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o argymhellion ar gyfer diwygiadau technegol i’r ddeddfwriaeth, a fydd yn arwain, gobeithio, at greu Cod Cynllunio i Gymru sydd wedi’i strwythuro’n dda.”

Yr angen am ddiwygio

Mae’r ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu’r system gynllunio yng Nghymru a Lloegr yn ddryslyd ac anfuddiol. Ar ôl cryn ddiwygio ac ychwanegu dros y 30 mlynedd diwethaf, mae’n llawn darpariaethau diangen ac nid yw’n dilyn arfer gorau presennol.

Mewn ymateb, gwahoddwyd Comisiwn y Gyfraith gan Lywodraeth Cymru i adolygu’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chynllunio fel y mae’n gymwys yng Nghymru.

Argymhellion Comisiwn y Gyfraith

Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad, mae ein hadroddiad yn cynnwys 193 o argymhellion i gwtogi ar y ddeddfwriaeth a’i symleiddio er mwyn sicrhau ei bod yn addas at y diben.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • egluro’r egwyddorion sy’n sail i’r system gynllunio yng Nghymru
  • symleiddio’r gyfraith o ran pryd mae angen caniatâd cynllunio
  • gwneud statws ceisiadau cynllunio amlinellol yn fwy eglur
  • tynhau ar y gyfraith o ran amodau cyn cychwyn
  • ei gwneud yn bosibl i ddarpar brynwyr ymrwymo i rwymedigaethau cynllunio
  • rhesymoli cosbau am dorri rheolaeth gynllunio
  • symleiddio’r ffordd y caiff gwaith ar adeiladau rhestredig ei awdurdodi
  • ei gwneud yn bosibl i berchenogion tir ddarganfod pryd y bydd angen amrywiol gydsyniadau arbennig arnynt
  • ei gwneud yn bosibl i awdurdodau dynnu byrddau hysbysebu heb awdurdod
  • tynhau’r rheolaeth dros waith ar goed a warchodir
  • symleiddio’r gyfraith o ran heriau yn yr Uchel Lys
  • gwneud y diffiniad o rai termau technegol yn fwy eglur

Rydym hefyd wedi cynnig diddymu llawer o ddarnau o ddeddfwriaeth nas defnyddir, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â chomisiynau ymchwiliadau cynllunio, parthau cynllunio syml, ardaloedd menter, trefi newydd, corfforaethau datblygu trefol, byrddau datblygu gwledig, ardaloedd archaeolegol, a thribiwnlysoedd apeliadau hysbysebu. Nid yw’r rhan fwyaf o’r rhain wedi cael eu defnyddio ers deng mlynedd ar hugain neu fwy ac nid yw rhai erioed wedi cael eu defnyddio.

Ni fydd ein cynigion yn effeithio ar gyfraith cynllunio fel y mae’n gymwys yn Lloegr.

Y camau nesaf

Gosodwyd yr adroddiad terfynol gerbron Senedd y DU a Chynulliad Cenedlaethol Cymru ar 03 Rhagfyr 2018.

Yn unol â’r protocol y cytunwyd arno rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Gyfraith, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ymateb dros dro i’n hadroddiad erbyn diwedd Mai 2019, ac ymateb manwl erbyn diwedd mis Tachwedd 2019.

Rydym yn gobeithio y bydd ein diwygiadau arfaethedig yn gyfraniad allweddol at Fil Cynllunio newydd i Gymru, ochr yn ochr â Bil Amgylchedd Hanesyddol newydd i Gymru – i’w gosod gerbron y Cynulliad yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Cânt eu cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg a byddant yn ffurfio sylfaen gyfreithiol wedi’i strwythuro’n rhesymegol yng Nghymru – a fydd, gyda’i gilydd, yn disodli Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, Deddf Adeiladau Rhestredig 1990, Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, pum Deddf arall, y rhannau perthnasol o Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, a rhannau o 25 o ddarnau eraill o ddeddfwriaeth.

DIWEDD

Rhagor o wybodaeth

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y prosiect cysylltwch â Charles Mynors yn:

Charles.mynors@lawcommission.gov.uk