Cryfhau Cysylltiadau â Gweinidogion Cymru

Gosodwyd Protocol rhwng Comisiwn y Gyfraith a Gweinidogion Cymru gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ffurfioli sut byddwn yn cydweithio mewn perthynas â materion datganoledig Cymru.

Mae’r Protocol, a lofnodwyd ar 2 Gorffennaf, yn nodi’r dull y bydd y Comisiwn a Gweinidogion Cymru yn ei ddefnyddio ar y cyd i ymdrin â gwaith y Comisiwn wrth iddo ddiwygio’r gyfraith. Mae’n trafod sut bydd y berthynas yn gweithio drwy holl gamau prosiect, o’n penderfyniad i ymgymryd â darn o waith, hyd at ymateb y Gweinidogion i’n hadroddiad terfynol a’n hargymhellion.

Mae Deddf Cymru 2014, a ddiwygiodd Ddeddf Comisiynau’r Gyfraith 1965 er mwyn ystyried datganoli yng Nghymru, yn rhoi modd i gytuno ar y Protocol. Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi’r grym i’r Comisiwn roi gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru ac yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfeirio prosiectau diwygio’r gyfraith yn uniongyrchol at y Comisiwn.

Mewn adlewyrchiad uniongyrchol o’r rhwymedigaethau a osodir ar yr Arglwydd Ganghellor gan Ddeddf Comisiwn y Gyfraith 2009, mae Deddf Cymru 2014 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno adroddiad yn flynyddol i’r Cynulliad ynglŷn â gweithredu ein hadroddiadau yn ymwneud â materion datganoledig Cymru.

Wrth groesawu’r Protocol, dywedodd Syr David Lloyd Jones, y Cadeirydd: “Mae’r Protocol a Deddf Cymru 2014 yn garreg filltir yn natblygiad perthynas waith gynhyrchiol rhwng y Comisiwn a Llywodraeth Cymru. Maent yn nodi sut byddwn yn cydweithio mewn perthynas â materion datganoledig Cymru ynghylch diwygio’r gyfraith, gan osod rhwymedigaethau ar y naill ochr a’r llall; a sut bydd Llywodraeth Cymru yn adrodd am ei hymateb i waith y Comisiwn wrth y Cynulliad Cenedlaethol.

“Bydd y diwygiadau hyn i Ddeddf Comisiynau’r Gyfraith 1965 yn sicrhau bod y cynllun statudol yn adlewyrchu realiti datganoli yng Nghymru am y tro cyntaf.”