Rydym wedi nodi rhai meysydd o’r gyfraith y mae ein profiad a’n trafodaethau â rhanddeiliaid yn awgrymu y gallai fod angen eu diwygio. Gallent fod yn brosiectau posib ar gyfer y Rhaglen. Hoffem glywed eich barn ar y rhain, a pha un a ydych chi o’r farn y dylent fod yn rhan o’n gwaith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf..

Cyfathrebu ar-lein

sut y gellid egluro’n well y gyfraith sy’n ymwneud â chyfathrebu sarhaus ar-lein?

Ar hyn o bryd, yng Nghymru a Lloegr, mae’r gyfraith droseddol yn ceisio ymdrin â chyfathrebu sarhaus ar y rhyngrwyd trwy nifer o ddarpariaethau deddfwriaethol, ac mae llawer ohonynt yn rhagflaenu’r oes ddigidol a’r twf enfawr yn y defnydd o gyfryngau cymdeithasol.

Er enghraifft, mae Rhan 1 Deddf Cyfathrebu Maleisus 1988 yn ei gwneud yn drosedd anfon cyfathrebiad sy’n “anweddus neu ffiaidd iawn” gyda’r bwriad o achosi “trallod neu bryder”; ac mae adran 127 Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn berthnasol i fygythiadau a datganiadau y gwyddys eu bod yn ffug, ond hefyd yn cynnwys meysydd sy’n gorgyffwrdd â Deddf 1988. Cafodd 1209 o bobl eu heuogfarnu o dan adran 127 yn 2014, (o’i gymharu ag 143 o bobl yn 2004). Gwelodd Rhan 1 y Ddeddf Cyfathrebu Maleisus gynnydd o ddeg gwaith yn nifer yr euogfarnau dros yr un cyfnod.

Cyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron ganllawiau codi tâl yn 2013 yn dilyn cyfres o erlyniadau proffil uchel ar ôl achos Chambers v DPP [2012] EWHC 2157(QB) (pan ddymchwelodd yr Uchel Lys euogfarn am bostio jôc yn bygwth chwythu Maes Awyr Robin Hood i fyny). Roedd canllawiau’r CPS yn annog ataliad wrth ystyried rhyddid mynegiant. Ond nid yw canllawiau yn cymryd lle darpariaethau statudol cliriach.

Mynegodd eiriolwyr dros ryddid i lefaru Erthygl 19 bryderon ynghylch yr amwysedd yn eu tystiolaeth i Bwyllgor Cyfathrebu Tŷ’r Arglwyddi yn 2014. Fe wnaethant dynnu sylw at y dryswch ynghylch y diffiniad eang o “ffiaidd iawn” yn Neddfau 1988 a 2003, a allai dorri’r egwyddor o sicrwydd cyfreithiol. Mae’r dryswch hwn yn cael ei gynyddu gan brinder y ddadl gyfreithiol sydd ar gael oherwydd amledd y pledion euog mewn achosion o’r natur hon.

Mae dau achos diweddar a welodd droseddwyr yn brolio ar Facebook ar ôl derbyn dedfrydau gohiriedig wedi codi cwestiynau pellach ynghylch a yw’r gyfraith gyfredol yn addas at y diben. Yn y ddau achos cafodd dedfrydau gohiriedig eu dirymu o blaid dalfa, ac eto mae diffyg eglurder o ran y troseddau sylfaenol.

Yn ychwanegol at Ddeddfau 1988 a 2003, gallai cam-drin ar-lein gael ei ddal gan nifer o ddarpariaethau eraill. Mae cwmpas y darpariaethau hyn (sy’n cwmpasu, ymhlith pethau eraill, aflonyddu, troseddau trefn gyhoeddus a phornograffi dial) a’r berthynas rhyngddynt yn aneglur. Mae budd amlwg i’r cyhoedd o ymdrin â cham-drin ar-lein a “throlio”, ond rhaid gwneud hyn drwy ddarpariaethau cyfreithiol clir, a rhagweladwy.

Gallai Comisiwn y Gyfraith ystyried a yw’r gyfraith bresennol yn gallu ymdrin â chyfathrebiadau rhyngrwyd tramgwyddus, ac a oes lle i symleiddio’r gyfraith yn y maes anodd hwn.

Beth yw eich barn chi?

A ddylem ystyried cynnwys y prosiect hwn yn ein 13eg Raglen ar gyfer diwygio’r gyfraith? Defnyddiwch y ffurflen hon i anfon eich sylwadau atom ni ar y prosiect posib hwn drwy e-bostio programme@lawcommission.gsi.gov.uk.

Dychwelyd at y prosiectau a awgrymwyd gan Gomisiwn y Gyfraith