Rydym wedi nodi rhai meysydd o’r gyfraith y mae ein profiad a’n trafodaethau â rhanddeiliaid yn awgrymu y gallai fod angen eu diwygio. Gallent fod yn brosiectau posib ar gyfer y Rhaglen. Hoffem glywed eich barn ar y rhain, a pha un a ydych chi o’r farn y dylent fod yn rhan o’n gwaith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Cyflafareddu

A ellid gwella Deddf Cyflafareddu 1996 i wneud cyflafareddiadau’n llai costus neu hirfaith?

Mae Deddf Cymrodeddu 1996 yn creu’r fframwaith ar gyfer achosion o gymrodeddu a gyflawnir o dan gyfraith weithdrefnol Lloegr. Mae wedi cael ei chanmol am helpu i sicrhau bod y DU yn brif gyrchfan ar gyfer cymrodeddu masnachol. Ond mae’n bwysig fod gyfraith Lloegr yn cael ei diweddaru’n gyson, er mwyn gallu cystadlu ag awdurdodaethau eraill.

Mae gennym ddiddordeb mewn clywed a fyddai newidiadau i’r Ddeddf yn gwneud achosion o gymrodeddu yn llai costus neu’n fyrrach. Rydym yn credu y gallai newidiadau cymharol fach hyd yn oed wneud gwahaniaeth. Er enghraifft, mae ymchwil diweddar gan Queen Mary University, Llundain yn awgrymu bod tribiwnlysoedd yn amharod i ddefnyddio gweithdrefnau symlach i ddatrys materion yn gyflym. Gallai gwneud darpariaeth benodol ar gyfer dyfarniad diannod annog cymrodeddwyr i gymryd agwedd fwy beiddgar er mwyn rheoli achosion yn effeithlon.

Newid posibl arall fyddai caniatáu ar gyfer cymrodeddu anghydfodau ymddiriedolaethau. Er y gallai rhai anghydfodau ymddiriedolaethau fod yn addas ar gyfer cymrodeddu, mae’n ymddangos ar hyn o bryd na all y rhai sy’n creu ymddiriedolaethau ei gwneud yn ofynnol i ymddiriedolwyr a buddiolwyr ddefnyddio cymrodeddu, yn hytrach nag ymgyfreitha, i ddatrys eu gwahaniaethau. Ar ben hynny, er y gallai dau neu fwy o bobl o gapasiti llawn ymrwymo i gytundeb cymrodeddu annibynnol dilys i ddatrys anghydfod ymddiriedolaeth, ni fydd unrhyw ddyfarniad yn rhwymo’r partïon eraill sydd â diddordeb. Mae gan y gwaith o ddatblygu’r gyfraith yn y maes hwn botensial i gynnig amrywiaeth o fuddion i bawb sy’n sefydlu, yn elwa o, yn gweinyddu ac yn cynghori ar ymddiriedolaethau. Mae gwaith yn y maes hwn yn y gorffennol wedi ei gynnig gan Bwyllgor y Gyfraith Ymddiriedolaethau ac wedi cael cefnogaeth gan y Llywodraeth, ond nid yw’r mater wedi cael ei ystyried yn flaenoriaeth fel prosiect sy’n sefyll ar ei ben ei hun.

Rydym yn gofyn barn ynghylch p’un a oes unrhyw feysydd o gyfraith cymrodeddu y dylem ni (neu na ddylem ni) fod yn eu hystyried.

Beth yw eich barn chi?

A oes unrhyw feysydd o’r gyfraith cyflafareddu y dylem ni (neu na ddylem ni) eu hystyried i’w cynnwys yn ein 13eg Raglen ar gyfer diwygio’r gyfraith? Defnyddiwch y ffurflen hon i anfon eich sylwadau atom ni ar y prosiect posib hwn drwy e-bostio programme@lawcommission.gsi.gov.uk.

Dychwelyd at y prosiectau a awgrymwyd gan Gomisiwn y Gyfraith