Rydym wedi nodi rhai meysydd o’r gyfraith y mae ein profiad a’n trafodaethau â rhanddeiliaid yn awgrymu y gallai fod angen eu diwygio. Gallent fod yn brosiectau posib ar gyfer y Rhaglen. Hoffem glywed eich barn ar y rhain, a pha un a ydych chi o’r farn y dylent fod yn rhan o’n gwaith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Cyfraith Lesddaliadol

A oes meysydd o’r gyfraith sy’n arwain at gyfyngiadau, aneffeithlonrwydd neu gostau diangen?

Mae cyfraith lesddaliadol yn effeithio ar fywydau miliynau o bobl, p’un a ydynt yn landlordiaid neu yn denantiaid cartrefi, ffermydd neu fusnesau.

Rydym wedi clywed am anfodlonrwydd yn cynyddu gyda dau faes cyfraith lesddaliadol fasnachol. Er eu bod yn dechnegol, rydym yn deall eu bod yn cael effaith ariannol sylweddol iawn a bod ganddynt y potensial i atal busnesau rhag gweithredu’n briodol sy’n cael canlyniadau ar yr economi ehangach.

Beirniadwyd Rhan 2 Deddf Landlord a Thenant 1954, sy’n darparu sicrwydd deiliadaeth i denantiaid busnes, fel y rhai sy’n rhedeg siopau a garejys a thenantiaid swyddfa. Gallai adolygiad ystyried i ba raddau y mae diogelwch o’r fath yn parhau i gyflawni swyddogaeth bwysig ac a ddylai barhau o dan y model presennol. Gallai hefyd (neu fel dewis arall) ystyried a allai diwygiadau mwy technegol i’r Ddeddf ei gwneud yn fwy syml. Mae problemau’n codi hefyd o dan Ddeddf Landlord a Thenant (Cyfamodau) 1995 pan mae lesddaliadau yn cael eu neilltuo. Mae cyfraith achosion wedi sefydlu bod trafodion cydsyniol safonol ac sy’n fasnachol bwysig yn cael eu gwneud yn anodd neu’n amhosibl gan Ddeddf 1995, ac rydym wedi clywed am ystod o broblemau sy’n arwain at gostau o gannoedd o filoedd o bunnau.

Mae llu o ddeddfwriaeth yn rheoli tenantiaethau preswyl hir a byr, sy’n hanfodol ar gyfer y rhai sydd â diddordeb yn y miliynau o denantiaethau o’r fath yng Nghymru a Lloegr. Yn Lloegr yn unig, mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 8.2 miliwn o aelwydydd yn cael eu rhentu’n breifat neu yn gymdeithasol, ac mae 4.1 miliwn o anheddau yn cael eu dal o dan denantiaeth breswyl hir. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed a oes meysydd lle mae’r gyfraith yn achosi anawsterau ymarferol i landlordiaid a thenantiaid. Er enghraifft, mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd wedi argymell adolygiad o’r drefn ynghylch adennill taliadau gwasanaeth o dan lesddaliadau preswyl hir mewn perthynas â gwaith mawr. Rydym hefyd yn ymwybodol o ansicrwydd ynghylch y gallu i herio telerau lesddaliad – fel rhenti tir sy’n ddarostyngedig i gymalau codi prisiau’n esbonyddol – fel rhai annheg mewn deddfwriaeth diogelu defnyddwyr. Gallai pryderon eraill fod yn berthnasol i lesddaliadau preswyl byr yn unig.

Rydym yn ymwybodol o feirniadaeth ynghylch y drefn llywodraethu tenantiaethau amaethyddol o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986. Mae’r Ddeddf yn caniatáu olyniaeth i denantiaeth amaethyddol, ond mae anfodlonrwydd ymysg rhai rhanddeiliaid â’r amodau y mae’n rhaid eu cyflawni er mwyn gwneud cais llwyddiannus am olyniaeth. Efallai hefyd y bydd rhai anawsterau technegol gyda gweithrediad ymarferol y Ddeddf.

Gallai prosiect gynnwys un neu fwy o’r materion hyn, neu feysydd eraill y gyfraith lesddaliadol. Rydym eisiau clywed am broblemau mewn unrhyw faes cyfraith lesddaliadol ac yn benodol: pa mor gyffredin yw’r problemau hynny; i ba raddau y maent yn cael effaith ymarferol ac economaidd sylweddol ac a yw effaith o’r fath wedi dod yn fwy arwyddocaol yn y blynyddoedd diwethaf; a pham y dylent gael eu hystyried yn flaenoriaeth o ran diwygio’r gyfraith.

Beth yw eich barn chi?

AA oes unrhyw feysydd o’r gyfraith lesddaliad y dylem ni (neu na ddylem ni) eu hystyried i’w cynnwys yn ein 13eg Raglen ar gyfer diwygio’r gyfraith? Defnyddiwch y ffurflen hon i anfon eich sylwadau atom ni ar y prosiect posib hwn drwy e-bostio programme@lawcommission.gsi.gov.uk.

Dychwelyd at y prosiectau a awgrymwyd gan Gomisiwn y Gyfraith