Cyhoeddi adroddiad blynyddol 2018-19

Cyhoeddwyd Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Gyfraith ar gyfer 2018-19.

Mae’r stori hon ar gael yn Saesneg hefyd.

Mae’r adroddiad blynyddol yn amlygu’r gwaith y mae’r Comisiwn wedi’i wneud dros y deuddeg mis diwethaf, fel:

  • Rhaglen estyn allan at ddarpar Gomisiynwyr i annog rhagor o amrywiaeth ymhlith ymgeiswyr ar gyfer rolau Comisiynydd.
  • Pedwar adroddiad gydag argymhellion ar gyfer diwygio wedi eu cyflwyno yn y Senedd, gan gynnwys cofrestru tir a’r Cod Dedfrydu (gyda Bil drafft)
  • Gwneud argymhellion penodol i Gymru yn yr adroddiad, Cyfraith Cynllunio yng Nghymru, a gyflwynwyd gerbron y Senedd yn San Steffan a’r Cynulliad yr un pryd.
  • Lansio amrywiaeth o ymgynghoriadau, gan gynnwys ar gyfer tri phrosiect lesddaliadau, cerbydau awtomataidd, atal gwyngalchu arian a llofnodion electronig

Dywedodd Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith, Syr Nicholas Green:

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un lwyddiannus dros ben i’r Comisiwn.

“Mae llawer o’n gwaith ar flaen y gad ym maes y gyfraith, a bydd yn helpu diwydiannau a thechnoleg newydd i ffynnu yn y Deyrnas Unedig. Mae gan yr argymhellion a wnaethom y potensial i wella a symleiddio’r gyfraith, a bydd yn cael effaith bendant iawn ar bobl yn y Deyrnas Unedig.

“Hoffwn ddiolch i’n staff yn y Comisiwn ac i bawb sydd wedi cyfrannu at ein gwaith yn diwygio’r gyfraith am eu gwaith caled a’u harbenigedd dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y gwaith hwn ac at barhau i argymell diwygiadau i wneud y gyfraith yn symlach, yn gliriach ac yn addas ar gyfer y dyfodol.”

Lawrlwythwch yr Adroddiad Blynyddol.