Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2020-2021

Mae Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Gyfraith 2020-2021 wedi ei chyhoeddi.

Mae’r stori hon ar gael yn Saesneg (This story is available in English).

Yn yr Adroddiad Blynyddol ceir flas o uchafbwyntiau o waith y Comisiwn dros y deuddeg mis diwethaf, megis:

  • Cytuno ar drefniadau ariannu a llywodraethiant newydd gyda’r Arglwydd Ganghellor a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
  • Lansio ein hymgynghoriad ar gyfer y 14eg Rhaglen o Ddiwygio’r Gyfraith
  • Lansio ein strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant gyntaf.
  • Cyhoeddi wyth adroddiad ers ein adroddiad blynyddol diwethaf, gan gynnwys diwygio llesddaliadau, contractau gwerthiant i ddefnyddwyr a moderneiddio’r troseddau cyfathrebu ynghyd â phrosiectau eraill.
  • Cyhoeddi ystod eang o ymgynghoriadau ar hyd y flwyddyn gan gynnwys ar domennydd glo yng Nghymru, dogfennau masnach electronig, camddefnyddio delweddau personol, cyfreithiau troseddau casineb a phriodasau.
  • Cynhyrchu ein hadolygiad economaidd cyntaf ar werth diwygio’r gyfraith ar sail argymhellion y Comisiwn.

Dywedodd Syr Nicholas Green, Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith:

“Er gwaethaf yr amgylchiadau gwaith heriol dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r deuddeg mis a fu wedi bod yn gyrhaeddiad arwyddocaol i Gomisiwn y Gyfraith.

Mae ein trefniadau ariannu newydd wedi darparu sicrwydd incwm ac wedi ein galluogi i ganolbwyntio ar yr hyn yr ydym yn ei wneud orau, sef symleiddio a gwella’r gyfraith. Hoffwn ddiolch i’r Arglwydd Ganghellor a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder am weithio gyda ni ar y trefniannau.

Mi fydd yr argymhellion a wnaethom dros y flwyddyn ddiwethaf yn symleiddio a gwella’r gyfraith mewn llu o feysydd hanfodol. Hoffwn ddiolch i bawb yn y Comisiwn am eu gwaith caled a hefyd i’r sawl o du allan i’r sefydliad sy’n cyfrannu at ein gwaith o ddiwygio’r gyfraith gan ddarparu eu cefnogaeth, barn ac arbenigedd.”