Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi cyhoeddi y bydd Comisiwn y Gyfraith yn adolygu’r cyfreithiau sy’n rheoli tribiwnlysoedd yng Nghymru.

Mae tribiwnlys yn gorff sy’n cael ei sefydu i ddatrys anghydfodau ac i adolygu penderfyniadau cyrff cyhoeddus. Ond mae’r rheolau a’r gweithdrefnau ar gyfer y tribiwnlysoedd sydd wedi’u datganoli yng Nghymru’n gymhleth ac yn anghyson, ac mewn rhai achosion, yn anaddas.

Felly, mae Comisiwn y Gyfraith yn bwriadu gwneud argymhellion a fydd yn diddymu’r cymhlethdod ac yn helpu i siapio Bil Tribiwnlysoedd i Gymru, a fydd wedi’i lunio i reoleiddio un system i dribiwnlysoedd yng Nghymru.

Meddai Comisiynydd y Gyfraith Nicholas Paines CF:

“Mae rôl bwysig gan dribiwnlysoedd mewn datrys anghydfodau, felly mae’n rhaid i’r cyfreithiau sy’n llywodraethu’r ffordd y cânt eu rhedeg fod mor effeithlon ag sy’n bosibl.

“Rydym yn edrych ymlaen at gychwyn y gwaith yma ac at helpu Llywodraeth Cymru wrth iddi geisio manteisio ar y cyfleoedd newydd sy’n codi oherwydd datganoli i wneud y gyfraith yng Nghymru’n haws, yn fwy eglur ac yn decach.”

Pennu’r gyfraith o amgylch trbiwnlysoedd

Mae’r rheolau a’r gweithdrefnau sy’n rheoli Tribiwnlysoedd yng Nghymru wedi datblygu bob yn dipyn o amrywiaeth eang o ddeddfau gwahanol.

Cafodd llawer o’r ddeddfwriaeth ei datblygu y tu allan i’r broses ddatganoli, gan olygu bod bylchau yn y ddeddfwriaeth.

Er enghraifft, ni roddwyd ystyriaeth i’r newidiadau a wnaed gan Ddeddf Cymru 2017, gan gynnwys y ffaith fod Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru i’w gael na’r ehangiad yng ngalluoedd Cynulliad Cymru.

O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Gomisiwn y Gyfraith gychwyn adolygiad a fydd yn ymdrin â materion sy’n cynnwys:

  • cwmpas system dribiwnlysoedd i Gymru
  • rolau Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac Uned Tribiwnlysoedd Cymru
  • penodi a disgyblu barnwyr Tribiwnlysoedd ac aelodau eraill
  • penodi Llywyddion/Dirprwyon
  • y pŵer i wneud a safoni rheolau gweithdrefnol
  • prosesau apelio
  • y broses gwyno
  • diogelu annibyniaeth farnwrol

Bydd y gwaith yn cychwyn yn 2019 a disgwylir iddo gymryd 12 mis.