Cynigion i ddiwygio tribiwnlysoedd datganoledig Cymru i greu system dribiwnlysoedd unedig i Gymru.

Mae cynigion Comisiwn y Gyfraith a gyhoeddwyd heddiw yn gwella ar y system doredig a chymhleth o dribiwnlysoedd sy’n bodoli yng Nghymru. Mae’r cynigion, sy’n ffurfio sail yr ymgynghoriad, yn diddymu’r cymhlethdod gan greu system unedig i dribiwnlysoedd yng Nghymru.

Corff a ffurfir i ddatrys anghydfod ac i adolygu penderfyniadau cyrff cyhoeddus ydy tribiwnlys. Ond mae rheolau gweithdrefnol a chyfundrefnau’r tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru yn gymhleth ac anghyson, ac mewn rhai enghreifftiau, yn anaddas i’w defnyddio.

Mae prif gynigion Comisiwn y Gyfraith i ddiwygio’r system gyfredol yn cynnwys:

  • Newid y system bresennol sy’n cynnwys amryw o dribiwnlysoedd, a’i uno i greu Tribiwnlys Haen – Gyntaf Unedig i Gymru, fydd wedi ei ddyrannu’r siambrau fydd yn edrych ar rannau amrywiol o’r gyfraith. Fe fydd y Tribiwnlys Haen – Gyntaf Unedig yn creu fframwaith hyblyg, fydd â’r gallu i addasu at anghenion y dyfodol.
  • Lle bo’n briodol i wneud hynny, safoni rheolau gweithdrefnol yr holl dribiwnlysoedd, gan gynnwys safoni’r modd mae pob tribiwnlys yn cynnal rhith – wrandawiadau a chyflwyno dogfennau ar ffurf ddigidol (canlyniad o bandemig COVID – 19 ).
    • Rydym yn cynnig bod pwyllgor (Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd) yn cael ei sefydlu i greu a gwella ar y rheolau gweithdrefnol, gan sicrhau bod y rheolau’n cael eu safoni ar draws yr holl dribiwnlysoedd.
  • Atgyfnerthu annibyniaeth strwythurol trwy ddiwygio Uned Tribiwnlysoedd Cymru (rhan o Lywodraeth Cymru sydd, ar y funud, yn gweinyddu y rhan helaeth o’r tribiwnlysoedd datganoledig) i fod yn adran anweinidogaethol, gan atgyfnerthu ei wahaniad rhag gweddill Llywodraeth Cymru.
  • Dod a Thribiwnlys Prisio Cymru a phaneli apelio gwaharddiadau ysgolion o fewn y system o dribiwnlysoedd, cynyddu arolygiaeth farnwrol, ac yn achos paneli apelio gwaharddiadau ysgolion, creu llwybr apelio newydd.

 

Dywedodd Nicholas Paines CF, Comisiynydd Cyfraith Gyhoeddus a’r Gyfraith yng Nghymru:

“Dydy’r system bresennol o dribiwnlysoedd yng Nghymru ddim yn gweithredu i’w lawn botensial. Mae’r ddeddfwriaeth lywodraethol yn ddarniog ac mae’r rhan helaeth yn ddegawdau oed, ac felly mae’n hen bryd ei thrawsnewid”

“Bwriad ein cynigion ydy i ddiosg y cymhlethdod a chreu un system o dribiwnlysoedd fydd yn addas i anghenion yr 21ain ganrif”

“Edrychwn ymlaen at ddarllen yr ymatebion i’r ymgynghoriad”

 

Problemau gyda’r tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru

Datblygodd system dribiwnlysoedd Cymru a Lloegr ar hap, gyda thribiwnlysoedd yn cael eu creu i ateb galw adrannau llywodraethol penodol pan gododd yr angen. Roedd bob tribiwnlys yn cael eu sefydlu i ddatrys problem benodol unigryw, canlyniad hyn oedd system ddi-drefn ac anhyblyg. Yn 2007, cafodd y drefn ei resymu yn Senedd y DU gan Ddeddf a gyfunodd llawer o dribiwnlysoedd y DU i greu un system unedig. Ond cafodd y tribiwnlysoedd datganoledig eu heithrio o’r Ddeddf, gan adael yr hen system doredig heb ei chyffwrdd.

O ganlyniad i’r datblygiad hirfaith ac anghyson, mae bylchau ac anghysonderau yn y ddeddfwriaeth. Mae’r prosesau a gweithdrefnau (megis rheolau penodi, neu drefn gwneud a chadw rheolau gweithdrefnol) yn amrywio o naill dribiwnlys i’r llall. Er bod creu swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru wedi gwella’r sefyllfa’n sylweddol gan uno’r tribiwnlysoedd, mae cyfyngiadau i’r hyn a ellir ei newid heb ddiwygio’r strwythurau cyfreithiol gwaelodol.

Mae’r diffyg cydlyniad wedi rhwystro’r system dribiwnlysoedd rhag datblygu i allu ymateb i’r newid yn y galw gan ei ddefnyddwyr. Nododd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn 2019 bod angen gwneud mwy o ddefnydd o’r tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru yn neddfwriaeth Cymru yn y dyfodol i ddatrys y broblem. Fe fydd ein cynigion yn gwneud hynny’n bosib.

 

Craffu ar y cynigion

I ddatrys y problemau gyda’r tribiwnlysoedd datganoledig, mae Comisiwn y Gyfraith yn cynnig amryw o ddiwygiadau, megis:

Strwythur y tribiwnlysoedd

  • Newid y system gyfredol o dribiwnlysoedd a chreu tribiwnlys haen – gyntaf unedig yn ei le, wedi ei isrannu’n siambrau yn ôl meysydd cyfreithiol – er enghraifft eiddo, addysg ac iechyd meddwl. Fe fyddai’r strwythur yma’n arwain at enillion effeithiolrwydd trwy gyfuno adnoddau ar y naill law, wrth barhau i gadw’r arbenigedd presennol ar y llall.
  • Dod a Thribiwnlys Prisio Cymru a phaneli apelio gwaharddiadau ysgolion o fewn y system ehangach o dribiwnlysoedd, dan oruchwyliaeth Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Fe fyddai hyn yn cynyddu annibyniaeth y paneli apelio gwaharddiadau ysgolion, gan na fyddant bellach yn dod dan adain yr awdurdodau lleol, sef y corff a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol sydd bellach dan sylw’r panel.
  • fewn pob siambr y tribiwnlys haen – gyntaf, fe fydd modd cyfuno tribiwnlysoedd sydd eisoes yn bodoli cyn belled eu bod yn delio a’r un maes o gyfraith, a lle bo’n fanteisiol gwneud hynny. Enghraifft o hyn ydy cyfuno Tribiwnlys Apeliadau Arolygwyr Cofrestredig Ysgolion â Thribiwnlys Apeliadau Arolygwyr Cofrestredig Addysg Feithrin, paneli apelio gwaharddiadau ysgolion a Thribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru gan greu siambr addysg.

Gweithdrefn a rheolau

  • Lle bo’n addas i wneud hynny, fe fydd rheolau gweithdrefnol rhai meysydd cyffredin yn cael eu safoni ar draws y tribiwnlysoedd (gan gynnwys cyflwyno dogfennau neu ymdrin â thystiolaeth). Fe fyddai hyn yn gwneud y rheolau’n fwy hygyrch i ddefnyddiwr. Fe fyddai hefyd yn darparu clirdeb i staff gweinyddol a barnwyr sy’n gweithio mewn sawl tribiwnlys, gan na fydd angen ymgyfarwyddo â’r rheolau gweithdrefnol o’r newydd wrth symud rhwng awdurdodaethau.
    • Creu pwyllgor ( Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru) i adolygu a gwella’r rheolau, gan sicrhau bod y rheolau’n aros yn gyfredol, a’u safoni ar draws y tribiwnlysoedd.
  • Gwneud yn fawr o’r datblygiadau technolegol er mwyn sicrhau bod y system dribiwnlysoedd yn hyblyg, ac yn ymateb i argyfyngau megis pandemig COVID – 19 ac arferion hir dymor ehangach. Fe fydd hyn yn cynnwys y gallu i gyflwyno dogfennau’n electroneg, a safoni’r rheolau ynghylch gwrandawiadau rhithwir.

Rheolaeth

  • Mae rhai o’r tribiwnlysoedd datganoledig yn cael eu rheoli gan uned o fewn Llywodraeth Cymru, Uned Tribiwnlysoedd Cymru. Mae galw am annibyniaeth strwythurol gref o ystyried mai rhan helaeth o lwyth gwaith y tribiwnlysoedd ydy adolygu penderfyniadau Llywodraeth Cymru neu lywodraeth leol. Fe fyddai ein cynigion i ddiwygio yn atgyfnerthu annibyniaeth farnwrol trwy adlunio yr Uned Tribiwnlysoedd Cymru bresennol a’i throi yn adran anweinidogaethol, fe fyddai hyn yn sicrhau annibyniaeth rhag gweddill Llywodraeth Cymru.
  • Creu rôl ehangach i Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, gan roi’r cyfrifoldeb i’r Llywydd am benodiadau a disgyblu aelodau tribiwnlys (ar y cyd â Llywodraeth Cymru at ddiben uwch benodiadau) yn ogystal â chadeirio Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru a phenodi aelodau’r pwyllgor hwnnw.

Camau nesaf

Fe fydd Comisiwn y Gyfraith yn ymgynghori ar y cynigion arfaethedig, gan gyflwyno cyfres o gwestiynau. Mae’r cyfnod ymgynghorol ar agor hyd 19 Mawrth 2021. Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, fe fydd Comisiwn y Gyfraith yn defnyddio’r ymatebion i wella’r polisi arfaethedig, cyn llunio cynigion diwygio terfynol. Y bwriad ydy i gyhoeddi adroddiad terfynol yn Haf 2021.

 

Nodiadau i’r golygydd

Am fwy o fanylion am y prosiect – https://lawcom.gov.uk/tribiwnlysoedd-datganoledig-yng-nghymru/