English


Er mwyn i’r gyfraith gael ei pharchu, mae’n rhaid ei bod yn cynrychioli’r cymunedau y mae’n ymwneud â nhw. Rydym felly’n awyddus i edrych ar y nifer mwyaf eang ac amrywiol o dalent y gallwn i ddod o hyd i’n Comisiynwyr y dyfodol. Rydym o ganlyniad yn dymuno cynnig cyfle tymor hir i’r rhai hynny o grwpiau a dangynrychiolir er mwyn hybu ceisiadau gan y rhai hynny na fyddent fel arfer yn ystyried gwneud cais i fod yn Gomisiynydd.

Bwriedir y cynllun hwn ar gyfer y rhai hynny o grwpiau a dangynrychiolir yn y Comisiwn, sydd ar hyn o bryd, yn cynnwys:

  • Merched
  • Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME).
  • Y rhai o dan anfantais cymdeithasol neu economaidd.
  • Y rhai hynny sy’n ystyried bod ganddynt anabledd o fewn ystyr Deddf Cydraddoldeb 2010

 

Bydd y Cynllun yn rhoi cyfle i ymgeiswyr brofi’r rôl, eu helpu i benderfynu a ydynt yn dymuno dilyn eu diddordeb ymhellach – p’un ai nawr neu yn y dyfodol. Os oes diddordeb gennych, byddem wrth ein bodd i gael clywed gennych.

Gwybodaeth bellach

Dysgu mwy am rôl y Comisiynydd yma.

Edrych ar grynodeb o Gomisiwn y Gyfraith a’r gwaith a wneir yma.

Gweld enghraifft o’r math o waith y mae Comisiynydd yn ei wneud gydag “Wythnos ym mywyd”.

Dysgu mwy am y cynllun cysgodi gwaith yma.

Gwneud cais i ymgymryd â gwaith cysgodi wrth gwblhau’r ffurflen gais gwaith cysgodi a’i hanfon  i LawCom_WorkShadowing@lawcommission.gov.uk.