Should we include these projects in the 13th Programme?

Rydym wedi nodi rhai meysydd o’r gyfraith y mae ein profiad a’n trafodaethau â rhanddeiliaid yn awgrymu y gallai fod angen eu diwygio. Gallent fod yn brosiectau posib ar gyfer y Rhaglen. Hoffem glywed eich barn ar y rhain, a pha un a ydych chi o’r farn y dylent fod yn rhan o’n gwaith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Cyflafareddu – a ellid gwella Deddf Cyflafareddu 1996 i wneud cyflafareddiadau’n llai costus neu hirfaith?

Dyletswyddau’r banciau i gwsmeriaid – a ddylid adolygu dyletswyddau banciau i gwsmeriaid a’u hailddatgan i’w gwneud yn fwy effeithiol?

Codeiddio’r gyfraith yng Nghymru – pa feysydd o gyfraith Cymru y gellid eu hegluro’n well drwy godeiddio?

Atafaelu – mae gan y gyfraith ar atafaelu elw yn sgil troseddu enw drwg am fod yn anodd i’w chymhwyso a’i gorfodi. A ellid ei symleiddio a’i gwneud yn fwy effeithiol?

Ymchwiliadau – a yw’r gyfraith bresennol yn arwain at ymchwiliadau cyhoeddus araf a chostus?

Cyfraith lesddaliad – a oes meysydd o’r gyfraith sy’n arwain at gyfyngiadau, aneffeithlonrwydd neu gostau diangen?

Safonau deddfwriaethol i Gymru – a ddylai deddfwriaeth Cymru fod yn destun safonau deddfwriaethol gwrthrychol newydd?

Cyfathrebu ar-lein – sut y gellid egluro’n well y gyfraith sy’n ymwneud â chyfathrebu sarhaus ar-lein?

Adolygu gofal cymdeithasol i blant – a oes angen adolygu’r gyfraith?

Rhesymoli – sut y gallwn ni symleiddio’r gyfraith?

Geni babi ar ran rhywun arall – a yw’r gyfraith yn adlewyrchu newid cymdeithasol?

Priodasau – a ddylid diwygio Deddf Priodasau 1949 i roi mwy o ddewis i gyplau o fewn strwythur deddfwriaethol symlach?

Cyfuno

Rhowch wybod i ni os ydych chi’n credu y byddai’n fuddiol dod â nifer o statudau sy’n ymwneud â’r un maes o’r gyfraith ynghyd (cyfuno) i greu un Ddeddf newydd. Efallai mai dim ond ailddrafftio’r ddeddfwriaeth berthnasol fyddai’n rhaid ei wneud, neu gallai olygu bod yn rhaid diwygio rhywfaint o’r gyfraith sylfaenol. Bydd cynigion ar gyfer cyfuno nad ydynt yn golygu diwygio’r gyfraith yn sylweddol yn cael eu hystyried ar wahân i’r rhaglen ar gyfer diwygio’r gyfraith, ond byddwn yn fodlon clywed awgrymiadau ar gyfer gwaith o’r fath fel rhan o’r ymgynghoriad hwn. Defnyddiwch y ffurflen hon i roi cymaint o wybodaeth â phosib am eich awgrym.

Diddymu cyfraith statud

Swyddogaeth bwysig arall sydd gan Gomisiwn y Gyfraith yw diddymu Deddfau, neu rannau o Ddeddfau, nad ydynt yn berthnasol i’r oes fodern, naill ai oherwydd eu bod wedi dyddio neu ddarfod. Y tîm Diddymu Cyfraith Statud sy’n gwneud y gwaith hwn. Lle bo Deddfau o’r fath yn dal mewn grym, gall hyn fod yn gamarweiniol ac yn llafurus i’r bobl sy’n dod ar eu traws. Er nad yw’n rhan o’n rhaglenni ar gyfer diwygio’r gyfraith, rydym yn defnyddio’r cyfle hwn i geisio gweld a oes meysydd o’r gyfraith, neu Ddeddfau penodol, sy’n peri pryder i bobl ac a allai fod yn rhai da i gael eu hystyried gan y tîm SLR. Defnyddiwch y ffurflen hon i roi cymaint o wybodaeth â phosib i ni.

Dyddiad cau

Anfonwch eich awgrymiadau atom ni erbyn 31 Hydref 2016 i programme@lawcommission.gsi.gov.uk.

Dychwelyd i’r dudalen ymgynghori