Rydym wedi nodi rhai meysydd o’r gyfraith y mae ein profiad a’n trafodaethau â rhanddeiliaid yn awgrymu y gallai fod angen eu diwygio. Gallent fod yn brosiectau posib ar gyfer y Rhaglen. Hoffem glywed eich barn ar y rhain, a pha un a ydych chi o’r farn y dylent fod yn rhan o’n gwaith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Dyletswyddau banciau i gwsmeriaid

A ddylid adolygu dyletswyddau banciau i gwsmeriaid a’u hailddatgan i’w gwneud yn fwy effeithiol?

O dan egwyddorion yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, rhaid i fanciau “roi sylw dyledus i fuddiannau eu cwsmeriaid a’u trin yn deg”. Rhaid i fanciau hefyd gydymffurfio â rheolau a chanllawiau manwl yr FCA. Mae Panel Defnyddwyr y Gwasanaethau Ariannol wedi dadlau “nad yw’r drefn hon yn gwarchod cwsmeriaid gwasanaethau ariannol fel y dylai”. Y pryder yw efallai fod egwyddor triniaeth deg yn rhy amwys i gael ei gweithredu ond, ar y llaw arall, mae rheolau a chanllawiau’r FCA yn rhy fanwl. Awgrymwyd y gallai’r dull rheoleiddio presennol annog uwch reolwyr i ddirprwyo materion sy’n ymwneud â thriniaeth deg i swyddogion cydymffurfio. Mae hyn yn gosod baich rheoleiddio sylweddol. Ar yr un pryd, gallai hefyd arwain at ganolbwyntio ar dicio bocsys manylion rheoleiddio yn hytrach nag ar gyfrifoldebau ehangach y banc.

Mae’r Panel wedi galw am ddyletswydd gryfach o ofal tuag at gwsmeriaid y bwriedir iddi adleisio gydag uwch reolwyr a helpu i gynnwys tegwch fel rhan o’r diwylliant.

Mae gennym ddiddordeb mewn clywed a yw hwn yn fater y gallai fod yn fuddiol i Gomisiwn y Gyfraith edrych arno. Un pwynt rhagarweiniol yw a yw hwn yn faes lle gallai’r gyfraith wneud gwahaniaeth.  Os yw, a ddylai dyletswyddau’r banciau gael eu hadolygu a’u hailddatgan i’w gwneud yn fwy effeithiol? Ac a allai hyn hefyd helpu i leihau baich a chwmpas rheoleiddio rhy fanwl?

Beth yw eich barn chi?

Mae gennym ddiddordeb mewn clywed a yw hwn yn fater y byddai Comisiwn y Gyfraith yn ei ystyried. Pwynt cychwynnol yw a yw hwn yn faes lle gall y gyfraith wneud gwahaniaeth.   Os ydyw, a ddylid adolygu dyletswyddau’r banciau a’u hailddatgan i’w gwneud yn fwy effeithiol? Ac a allai hyn helpu i leihau baich a chwmpas rheoliadau gor-fanwl hefyd?

Defnyddiwch y ffurflen hon i anfon eich sylwadau atom ni ar y prosiect posib hwn drwy e-bostio programme@lawcommission.gsi.gov.uk.

Dychwelyd at y prosiectau a awgrymwyd gan Gomisiwn y Gyfraith