Rydym wedi nodi rhai meysydd o’r gyfraith y mae ein profiad a’n trafodaethau â rhanddeiliaid yn awgrymu y gallai fod angen eu diwygio. Gallent fod yn brosiectau posib ar gyfer y Rhaglen. Hoffem glywed eich barn ar y rhain, a pha un a ydych chi o’r farn y dylent fod yn rhan o’n gwaith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Geni babi ar ran rhywun arall

A yw’r gyfraith yn adlewyrchu newid cymdeithasol?

Mae amryw o randdeiliaid wedi awgrymu i ni y dylai’r gyfraith mewn perthynas â benthyg croth gael ei hadolygu ac mae Jane Ellison AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, wedi dweud ei bod hi a’r Llywodraeth yn cefnogi cynnwys prosiect o’r fath yn ymgynghoriad ein 13eg Rhaglen.

Y brif ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â benthyg croth yw Deddf Benthyg Croth 1985 ac (o ran gwneud gorchmynion rhieni) Deddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008. Mae’r gyfraith wedi cael trafferth i addasu i newidiadau mewn agweddau, galw cynyddol am drefniadau benthyg croth, a nifer cynyddol o drefniadau benthyg croth tramor. Mae nifer o faterion yn y gyfraith a allai fod angen eu diwygio:

  • Benthyg croth a’r rhiant sengl: Nid oes unrhyw rym i’r llys wneud gorchymyn rhieni o blaid person sengl (yn hytrach na chwpl), a arweiniodd yn ddiweddar at ddatganiad Uchel Lys o anghydnawsedd â Deddf Hawliau Dynol 1998 yn achos Re Z (Plentyn) (Rhif 2) [2016] EWHC 1191 (Fam).
  • Gorchmynion rhieni:
    • Mae ansicrwydd posibl yn cael ei achosi wrth i ferched sy’n benthyg croth (ac weithiau eu gwŷr) gael eu cofnodi fel rhiant/rhieni ar dystysgrif geni plentyn a anwyd o ganlyniad i drefniant benthyg croth. Ar hyn o bryd, gellir cael gorchmynion rhieni dim ond ar ôl genedigaeth y plentyn ac ar ôl i’r rhieni a fwriadwyd wneud cais i’r llys. Mewn un achos, effaith y gyfraith “oedd bod y plant yn cael eu hynysu heb wladwriaeth a heb rieni”;
    • Dywedwyd wrthym fod yr amodau ar gyfer gwneud gorchymyn rhieni yn ddiangen o gyfyngol.
  • Rheoleiddio benthyg croth: Gallai prosiect ystyried rheoleiddio pob agwedd ar drefniadau benthyg croth ar hyn o bryd, yn ogystal â chymhwyso’r egwyddor lles (y plentyn) mewn trefniadau benthyg croth.

Mae gennym ddiddordeb ym marn ymgyngoreion ar effaith y materion hyn ac a fyddent yn addas ar gyfer eu hadolygu gan Gomisiwn y Gyfraith. Byddem hefyd yn hoffi clywed am unrhyw agweddau o’r gyfraith benthyg croth y mae ymgyngoreion yn awgrymu sydd angen eu haddasu, eu symleiddio neu eu diwygio.

Beth yw eich barn chi?

Mae gennym ddiddordeb ym marn yr ymgyngoreion ar effaith y materion hyn a pha un a fyddent yn addas i Gomisiwn y Gyfraith eu hadolygu. Hoffem glywed hefyd am unrhyw agweddau penodol ar gyfraith geni babi ar ran rhywun arall y mae’r ymgyngoreion yn awgrymu bod angen eu haddasu, eu symleiddio neu eu diwygio. Defnyddiwch y ffurflen hon i anfon eich sylwadau atom ni ar y prosiect posib hwn drwy e-bostio programme@lawcommission.gsi.gov.uk.

Dychwelyd at y prosiectau a awgrymwyd gan Gomisiwn y Gyfraith