Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ymateb interim yn croesawu’r adroddiad ar Gyfraith Cynllunio yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu ymateb interim i argymhellion Comisiwn y Gyfraith ar wella’r Gyfraith Cynllunio yng Nghymru.

Cyhoeddwyd adroddiad Comisiwn y Gyfraith – Cyfraith Cynllunio yng Nghymru – ym mis Tachwedd 2018, a chafodd ei gyflwyno gerbron y Senedd a’r Cynulliad Cenedlaethol.  Yn yr adroddiad, rydym yn cyflwyno cyfres o argymhellion, gan gynnwys argymell creu Cod Cynllunio newydd i Gymru, sy’n gynhwysfawr, ond sy’n fwy syml na’r system bresennol.

Mae Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a ymatebodd ar ran Llywodraeth Cymru, wedi diolch i Gomisiwn y Gyfraith am ein “gwaith sylweddol a’n dadansoddi cadarn”, sydd wedi arwain at “sylfaen dystiolaeth gynhwysfawr sy’n sail ar gyfer yr adroddiad ac ar gyfer ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid”.

Mae’r llythyr gan y Gweinidog yn canolbwyntio ar y tri phrif faes y mae’r Comisiwn wedi cyfeirio atynt, sef:

  • yr angen i symleiddio a chydgrynhoi cyfraith cynllunio
  • yr achos dros gael god cynllunio
  • cwmpas yr ymarfer cydgrynhoi cychwynnol.

Mae hi’n nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau gweithio ar Fil cydgrynhoi pwysig, sy’n debygol o ddisodli’r holl ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n ymwneud â chynllunio yng Nghymru – gan gynnwys Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, a llawer iawn o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991, Deddf Cynllunio a Digolledu 2004 a Deddf Cynllunio 2008.

Mae disgwyl i’r Bil gael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad yn gynnar y tymor nesaf, a bydd yn cynnwys nifer o’r diwygiadau sydd wedi cael eu cyflwyno yn Adrdoddiad Terfynol y Comisiwn.

Mae’r Gweinidog yn nodi “rydym wedi ymrwymo i ddatblygu deddfwriaeth hygyrch sydd wedi cael ei hystyried yn ofalus.  Wrth i ni ddechrau paratoi’r Bil cydgrynhoi cynllunio ar gyfer Cymru, rwy’n ddiolchgar i Gomisiwn y Gyfraith am ei gefnogaeth a’i gymorth parhaus gyda’r mater hwn”.

Mae’r ymateb interim ar gael (yn Gymraeg) yma.

Dywedodd Nicholas Paines, CF, Comisiynydd y Gyfraith sy’n gyfrifol am gyfraith gyhoeddus a’r gyfraith yng Nghymru:

“Rydym yn ddiolchgar i’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol am yr ymateb interim i’n hadroddiad.Rydym yn edrych ymlaen i barhau i fod mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru, i roi’r argymhellion hyn ar waith ac i wella’r system gynllunio yng Nghymru.”

Bydd ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru, sydd i fod i gael ei gyflwyno ym mis Tachwedd 2019, yn ymateb i’r 192 o argymhellion sydd wedi’u nodi yn Rhan 2 adroddiad Comisiwn y Gyfraith.