Mae Comisiwn y Gyfraith yn dechrau prosiect ar reoleiddio tomenni glo yng Nghymru

(Read this story in English)

Mae Comisiwn y Gyfraith wedi dechrau prosiect i wella’r fframwaith rheoliadol ar gyfer diogelwch tomenni glo yng Nghymru.

Mae tomen glo yn bentwr o ddeunydd gwastraff o’r broses mwyngloddio glo. Mae rhai tomenni glo yn fawr iawn, ac mae rhai wedi’i leoli ar lethrau serth. Mae rheoleiddio gwael o domenni glo yn gallu arwain at lithriadau, sy’n arwain at drychinebau fel yn Aberfan yn 1966, pan lithrodd tomen lo ar ben ysgol gynradd, ac achosi marwolaethau 116 plant a 28 oedolyn.

Ymddeddfwyd y ddeddfwriaeth gyfredol yn dilyn trychineb Aberfan, mewn cyfnod pan oedd diwydiant glo gweithredol. Fodd bynnag, nid yw’n darparu fframwaith effeithlon ar gyfer rheoli tomenni glo anweithredol – y mae oddeutu 2000 yng Nghymru – yn yr unfed ganrif ar hugain.

Gyda’r rhagolwg o lawiad trymach fel canlyniad o newid hinsawdd, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Tasglu Diogelwch Tomenni Glo i gyflawni rhaglen o waith i ddelio gyda  diogelwch o domenni glo yng Nghymru. Mae rhaglen y Dasglu yn cynnwys ymateb i bryderon diogelwch byr-dymor a chreu polisi hir-dymor i fynd i’r afael â gwaddol y tomenni glo anweithredol. Fel rhan o’r gwaith, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i’r Comisiwn i gynnal prosiect yn y maes yma.

Bydd Comisiwn y Gyfraith yn tynnu sylw at fylchau, anghysondebau a dulliau di-fudd sydd wedi dyddio o fewn y ddeddfwriaeth a gwneud argymhellion ar gyfer system reoleiddio newydd cadarn, integredig ac ystyriol o’r dyfodol.

Mae Comisiwn y Gyfraith yn anelu i orffen y prosiect yn gynnar yn 2022.

Dywedodd y Comisiynydd Cyfraith Gyhoeddus a’r Gyfraith yng Nghymru, Nicholas Paines CF:

“Mae’r cyfreithiau sy’n rheoleiddio tomenni glo wedi dyddio ac mae diwygiad yn hanfodol i ddiogelu’r cyhoedd yng Nghymru a lleihau’r risg o drychineb arall.” 

“Byddwn yn dadansoddi lle nad ydy’r gyfraith yn gweithio bellach, a gwneud argymhellion i greu fframwaith rheoliadol effeithlon fydd yn gweithio heddiw, ac yn y dyfodol.”

I ddysgu mwy am y prosiect, pwyswch yma.