Mae’r ymgynghoriad ar y 14eg Rhaglen o Ddiwygio’r Gyfraith bellach ar agor.

Heddiw, mae Comisiwn y Gyfraith wedi lansio ymgynghoriad ar gyfer ein 14eg Rhaglen o Ddiwygio’r Gyfraith. Fe fydd yr ymatebion a gawn gan y cyhoedd yn llunio rhan helaeth o waith y Comisiwn dros y blynyddoedd nesaf. Rydym ni’n gofyn am eich cymorth chi i adnabod meysydd o gyfraith Cymru a Lloegr sydd angen eu diwygio, a blaenoriaethu’r diwygiadau hynny.

Yn ogystal â chefnogi cread cyfraith glir, teg a modern, gall y prosiectau sy’n cael eu cynnig chwarae rhan flaenllaw wrth i’r wlad adfer wedi effeithiau y pandemig COVID–19 ac wrth fynd i’r afael a rhai o ganlyniadau gadael yr UE ar y gyfraith.

Rydym ni wedi amlinellu rhai meysydd a fyddai’n elwa o ddiwygiad ac fe fyddwn yn cyhoeddi rhai syniadau posib ar gyfer prosiectau fydd yn ffurfio rhan o’r Rhaglen. Mi rydym ni’n awyddus i glywed eich barn chi ynghylch y prosiectau yma (ydyn nhw’n brosiectau da neu ddim), a/neu eich barn chi am pa brosiectau sydd angen eu cynnal.

Dywedodd Syr Nicholas Green, Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith:

“Mae ein rhaglenni o ddiwygio’r gyfraith yn gyfle gwerthfawr i ni glywed gan aelodau’r cyhoedd am feysydd o gyfraith sydd angen eu diwygio fwyaf.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r sawl fydd yn ymateb i’r ymgynghoriad. Fe fydd eich cyfraniadau yn amhrisiadwy wrth i ni benderfynu pa brosiectau fydd yn mynd ymlaen i gael eu hadolygu gan y Comisiwn a’r Llywodraeth. Fe fydd eich mewnbwn yn ein helpu i symleiddio a moderneiddio y gyfraith er budd cymdeithas a busnesau ar hyd a lled Cymru a Lloegr.”

 

Fe fydd yr ymgynghoriad yn cau ar 31 Gorffennaf 2021. 

Gallwch ganfod mwy ac ymateb i’r ymgynghoriad ar y 14eg Rhaglen yma.