Rydym wedi nodi rhai meysydd o’r gyfraith y mae ein profiad a’n trafodaethau â rhanddeiliaid yn awgrymu y gallai fod angen eu diwygio. Gallent fod yn brosiectau posib ar gyfer y Rhaglen. Hoffem glywed eich barn ar y rhain, a pha un a ydych chi o’r farn y dylent fod yn rhan o’n gwaith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Priodasau

A ddylid diwygio Deddf Priodasau 1949 i roi mwy o ddewis i gyplau o fewn strwythur deddfwriaethol symlach?

Y brif statud sy’n llywio priodasau, neu weinyddu priodas, yw Gorchymyn Deddf Priodasau 1949. Ond mae strwythur y gyfraith priodasau, gyda’i ffocws ar reoleiddio’r adeiladau lle gallai priodas ddigwydd, yn dyddio’n ôl i Ddeddf Priodasau 1836 ac mae elfennau o’r gyfraith hyd yn oed yn hŷn.

Mae’r Comisiwn wedi cynnal gwaith cwmpasu ac ym mis Rhagfyr 2015 fe wnaethom gyhoeddi ein papur Getting Married. Ond ni wnaeth y papur hwnnw, fodd bynnag, wahodd sylwadau am ein casgliadau. Yn ein hadroddiad cwmpasu, nodwyd y cwestiynau y byddai angen eu hateb mewn prosiect llawn yn adolygu cyfraith priodas. Fe wnaethom awgrymu mai amcan diwygio ddylai fod i ddeddfu ar gyfer mwy o ddewis o fewn strwythur cyfreithiol symlach.

Rydym wedi nodi’r meysydd canlynol posibl ar gyfer diwygio:

  • Ble mae modd cynnal priodas – er enghraifft, y tu allan (nad yw’n cael ei ganiatáu yn gyffredinol ar hyn o bryd gan y gyfraith), ac mewn ystod ehangach o leoliadau. Byddai newid o’r math hwn hefyd yn cynorthwyo gyda’r broblem bod rhai priodasau crefyddol yn cael eu canfod i fod yn annilys oherwydd eu bod wedi cael eu cynnal mewn lleoliad a ganiateir gan arferion crefyddol neu ddiwylliannol, ond nad ydynt yn cael eu caniatáu ar hyn o bryd gan y gyfraith.
  • Pa grwpiau neu unigolion a ddylai allu gweinyddu priodasau a sut y dylent gael eu rheoleiddio.
  • Cynnwys y seremoni, a pha fath o seremonïau y dylid eu caniatáu.
  • Rhybudd a gofynion cofrestru ar gyfer priodas: ar hyn o bryd mae’r rhain yn gyfyngol, yn gymhleth ac yn hen ffasiwn.
  • Beth sy’n gwneud priodas yn ddilys: nid yw’r gyfraith bresennol yn rhoi digon o eglurder ynghylch y materion ffurfiol sy’n ofynnol er mwyn i briodas fod yn ddilys; mae rheolau gwahanol ar gyfer gwahanol fathau o seremonïau priodas yn ychwanegu at y cymhlethdod.
  • I ba raddau y dylai’r rheolau sy’n llywodraethu ffurfio partneriaeth sifil gyd-fynd â’r rhai ar gyfer gweinyddu priodas.

Byddai gennym ddiddordeb mewn cael barn ymgyngoreion ar effaith y materion yr ydym wedi eu nodi uchod ac a ddylid ystyried diwygio cyfraith priodas yn flaenoriaeth. Ar gyfer pob un o’r materion hyn, byddem yn hoffi clywed gan ymgyngoreion a oes angen newid yn y gyfraith ac a yw’n addas ar gyfer adolygiad pellach gan Gomisiwn y Gyfraith.

Beth yw eich barn chi?

Byddai gennym ddiddordeb mewn clywed eich barn ar effaith y materion a nodwyd gennym a pha un a ddylid ystyried diwygio’r gyfraith priodasau fel mater o flaenoriaeth. Ar gyfer pob un o’r materion hyn hoffem glywed a ydych chi o’r farn bod angen newid y gyfraith ac a yw’n addas i Gomisiwn y Gyfraith ei hadolygu ymhellach. Defnyddiwch y ffurflen hon i anfon eich sylwadau atom ni ar y prosiect posib hwn drwy e-bostio programme@lawcommission.gsi.gov.uk.

Dychwelyd at y prosiectau a awgrymwyd gan Gomisiwn y Gyfraith.