English


Pob blwyddyn, mae ein cynorthwywyr ymchwil yn dod o ardaloedd a chefndiroedd gwahanol. Darganfod mwy am rhai o gynorthwywyr ymchwil blwyddyn yma, a beth maen nhw yn meddwl am y swydd, yma:


Marika Cash

Tîm: Cyfraith Eiddo, Teulu ac Ymddiriedolaethau

Gradd: BA Cyfraith; LLM mewn Cyfraith Hawliau Dynol Ewropeaidd a Rhyngwladol

Prifysgol:  Prifysgol Caergrawnt (BA); Prifysgol Leiden yn yr Iseldiroedd (LLM)

Profiad gwaith blaenorol: Mi wnes i rai tymhorau prawf byr mewn cyfraith teulu, ychydig o ymchwil (gyda a heb dâl), ac addysgu’r gyfraith i fyfyrwyr prifysgol tramor am ychydig wythnosau.Ar wahân i hynny rwyf wedi gweithio fel achubwr bywydau ac mewn gwahanol gaffis a thafarndai.

Prosiect: Cyfunddaliad (dan ymbarél “Cyfunddaliad a phrydlesi preswyl”).

Beth yw eich cynlluniau i’r dyfodol? Dw i’n gobeithio dechrau cwrs y Bar mis Medi nesaf (os gallaf hel digon o arian at ei gilydd!). Fel arall, dw i’n ystyried ymgeisio i fod yn hyfforddai gyda Llys Hawliau Dynol Ewrop, neu fel intern gydag amrywiol gyrff NGO yn y Deyrnas Unedig neu yn yr Iseldiroedd.

Siaradwch am ddarn o waith diweddar:

Mi wnes i ddrafftio cyfres o dri memo’n ymwneud ag a yw datganiad y gymuned cyfunddaliad yn atal rhai cyfyngiadau ar werthu, a’r mathau o gyfyngiadau a allai gael eu rhoi ar unedau cyfunddaliad.

Pam fyddech chi’n argymell gweithio i’r Comisiwn? Mae un peth a ddywedodd rhywun wrthyf yn ystod fy amser cynefino wedi aros gyda fi: er y gallwch fynd ymlaen i fod yn fargyfreithiwr neu’n gyfreithiwr neu’n rhywbeth hollol wahanol, efallai na fyddwch byth eto mewn sefyllfa i greu cyfraith, yn lle dim ond ei chymhwyso. Mae Comisiwn y Gyfraith yn eithaf unigryw yn hyn o beth; ymchwiliwn i gyfraith a pholisi a chyfrannu (gobeithio!) at gyfreithiau yn y dyfodol fydd yn effeithio ar filiynau o bobl. Mae’n eithaf brawychus pob tro y meddyliaf am y peth!

Y peth gorau am weithio i Gomisiwn y Gyfraith: Mi soniaf am y tri pheth gorau, oherwydd ni allaf ddewis rhyngddynt. Yn gyntaf, mae’r cyfrifoldeb a gefais fel RA newydd yn anhygoel. Dim ond ers cwpwl o fisoedd yr wyf wedi bod yma, ond rwyf eisoes wedi drafftio naw memo, cymryd cofnodion a prawf-ddarllen papurau polisi. Yn ail, mae’r gwaith ei hun yn hynod ddiddorol; os ydych yn dipyn o gîc cyfreithiol (!) gyda llygad am fanylion, yna dyma’r lle i chi! Mae llawer iawn o hyblygrwydd hefyd o fewn gwahanol dimau’r Tîm Cyfraith Eiddo, Teulu ac Ymddiriedolaethau felly dw i wedi gwneud llawer mwy na dim ond gwaith cyfunddaliad.”

Sut glywsoch chi am y swydd? Roedd rhai o fy ngoruchwylwyr a darlithwyr israddedig wedi gweithio i Gomisiwn y Gyfraith o’r blaen ac roeddwn hefyd wedi siarad ag un neu ddau RA mewn digwyddiad gyrfaoedd “cyfraith budd cyhoeddus”.

Sut beth oedd y broses ymgeisio? Dw i’n cofio mynd drwy sawl drafft wrth ateb y cwestiynau cymhwyso. Mi wnes i hefyd wir fwynhau’r prawf ysgrifenedig ychydig cyn y cyfweliad. Ond, a bod yn gwbwl onest: dydw i ddim yn dda iawn mewn cyfweliad felly roedd y rhan yma’n eithaf brawychus, yn enwedig oherwydd ei fod yn cael ei gynnal o bell.

Cyngor i ymgeiswyr: (1) Peidiwch â pheidio ymgeisio oherwydd eich diffyg profiad gwaith, neu oherwydd y brifysgol y buoch iddi (mae’r broses yn ‘brifysgol-ddall’ eleni beth bynnag).  Rydym i gyd ar wahanol gamau yn y siwrne felly dylech alw ar y sgiliau a’r gwersi a enilloch o ba bynnag brofiadau a gawsoch, a’u cymhwyso i’r cwestiynau. Wedi dweud hynny, cofiwch mai ymgeisio i fod yn gynorthwy-ydd “ymchwil” ydych chi! (2) Dechreuwch eich cais yn gynnar; mi wnes i ddrafftio ac ail-ddrafftio fy atebion droeon, a phrawf-ddarllen fy atebion ysgrifenedig droeon hefyd. (3) Mae’r cyngor arferol yn berthnasol o ran darllen / gwrando ar, a chofio ateb y cwestiwn yn iawn, mewn iaith syml a chryno (yn llafar ac ysgrifenedig) a strwythuro eich atebion yn dda. (4) Ceisiwch gyfleu eich brwdfrydedd a’ch cymhelliad mewn ffordd bendant – pam eich bod eisiau gweithio yn y rôl hon? Pa brosiectau sydd gennych ddiddordeb ynddyn nhw ar hyn o bryd, a pham?


Aparajita Arya

Tîm: Cyfraith Fasnachol a Chyffredin

Gradd:BA, LLB, BCL.

Prifysgol: Coleg yr Arglwyddes Shri Ram i Ferched, Prifysgol Caeredin, Prifysgol Rhydychen

Profiad gwaith blaenorol:Rwyf wedi gweithio mewn rolau ymchwil mewn prifysgol, gyda chyrff polisi annibynnol, a gyda llywodraeth India.

Prosiect:Dogfennau Masnach Electronig a Chontractau Clyfar

Beth yw eich cynlluniau i’r dyfodol? Byddaf yn dechrau tymor prawf yn Llundain y flwyddyn nesaf.

Siaradwch am ddarn o waith diweddar: Rwyf ar hyn o bryd yn gweithio ar femo ymchwil i’r prosiect dogfennau masnach electronig. Rwyf hefyd yn dadansoddi ymatebion a dderbyniwyd gan ymgyngoreion i’n cais am dystiolaeth, ar gyfer yr un prosiect.

Pam fyddech chi’n argymell gweithio i’r Comisiwn?Mae gweithio i Gomisiwn y Gyfraith yn gyfle rhagorol i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu, ymchwil a gweinyddu prosiectau a hefyd i ystyried problemau cyfreithiol diddorol a deallusol heriol o safbwynt ymarferol ac academaidd.

Y peth gorau am weithio i Gomisiwn y Gyfraith:Y ddau beth gorau yw gweithio gyda thîm cefnogol a thalentog iawn a chael cyfle i gyfrannu at waith fydd yn effeithio ar y gyfraith mewn ffyrdd amlwg.

Sut glywsoch chi am y swydd?Fe’i gwelais ar wefan Comisiwn y Gyfraith.

Sut beth oedd y broses ymgeisio?Roedd y broses ymgeisio’n eithaf didrafferth gyda phob cam a dyddiad cau cysylltiedig wedi eu disgrifio’n glir yn y ddogfen ganllawiau.

Cyngor i ymgeiswyr:Mae llenwi’r ffurflen gais yn cymryd amser felly dylech ganiatáu digon o amser cyn y dyddiad cau i gynnwys eich holl wybodaeth.O ran cynnwys y ffurflen (ac mae hyn yn berthnasol i’r ymarfer ysgrifenedig ac i’r cyfweliad), dylech wneud yn siŵr eich bod yn ateb y cwestiynau’n glir ac mewn ffordd eithaf ffurfiol.


Matthew Timm

Tîm:Cyfraith Gyhoeddus a’r Gyfraith yng Nghymru

Gradd: Cyfraith (Astudiaethau Cyfreithiol Ewropeaidd) LLB

Prifysgol: Prifysgol Newcastle

Profiad gwaith blaenorol: Ar ôl prifysgol, treuliais 18 mis yn gweithio yn Seland Newydd fel para-gyfreithiwr i’r llywodraeth ac mewn practis preifat. Enillais ddealltwriaeth ddefnyddiol o sut i gymharu a dadansoddi’r gyfraith mewn gwahanol awdurdodaethau. Enillais brofiad yn y brifysgol hefyd drwy gynlluniau dros y gwyliau a mân-dymhorau prawf, a thrwy wirfoddoli pro-bono i roi cyflwyniadau i blant a phobl ifanc ddifreintiedig, a chynnig cyngor cyfreithiol i gwsmeriaid terfynol wael.

Prosiect:Cerbydau Awtomatig

Beth yw eich cynlluniau i’r dyfodol? Fy uchelgais yw bod yn fargyfreithiwr yn arbenigo mewn cyfraith gyhoeddus a hawliau dynol. Dw i’n gobeithio cael fy nerbyn ar gyfer tymor prawf eleni.

Siaradwch am ddarn o waith diweddar: Dw i wedi bod yn gweithio ar gyhoeddi’r adroddiad ar Gerbydau Awtomatig drwy ddrafftio a phrawf-ddarllen penodau. Mae’r bennod fues i’n canolbwyntio arni’n ystyried y rheoliadau presennol ar farchnata camarweiniol a’u cymhwyso i nodweddion cymorth gyrru (fel crŵs-control). Yn y bennod, dw i’n dadansoddi’r gyfraith bresennol, egluro pam ei bod yn anfoddhaol ac argymell troseddau newydd i oresgyn y broblem bod gyrwyr yn cael eu camarwain i beidio â thalu sylw.

Pam fyddech chi’n argymell gweithio i’r Comisiwn? Mae’r gwaith yn apelio’n fawr ataf. Yn aml iawn nid oes ateb hawdd i gwestiwn ymchwil ac mae uwch-gydweithwyr yn gofyn i chi lunio barn ar sail eich canfyddiadau. Gall fod yn heriol gyda chwestiynau ymchwil cymhleth. Mae eich syniadau a’ch cynigion yna’n cael eu ‘profi’ gan gydweithwyr, ac efallai y gofynnir i randdeiliaid roi adborth. Mae hyn i gyd yn digwydd mewn ffordd gyfeillgar a chydweithredol ac yn gyfle i chi wella eich eiriolaeth lafar ac ysgrifenedig drwy feddwl sut y mynegwch eich syniadau, yn enwedig wrth ateb dadleuon sy’n mynd yn groes i’ch rhai chi. I mi, bu’n hyfforddiant gwych i fod yn fargyfreithiwr, er bod gallu meddwl yn ddadansoddol yn fanteisiol i lawer o broffesiynau.

Y peth gorau am weithio i Gomisiwn y Gyfraith:Y cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn.Mae wedi bod yn anhygoel gweld fy ymchwil yn dylanwadu ar feddwl a pholisi Comisiwn y Gyfraith ar faterion cyfreithiol a gwybod fy mod wedi cyfrannu at yr argymhellion diwygio’r gyfraith a wnaed i’r Llywodraeth.

Sut glywsoch chi am y swydd?Roedd gen i ddiddordeb erioed mewn gweithio i Gomisiwn y Gyfraith ar ôl darllen sawl adroddiad gan Gomisiwn y Gyfraith ar gyfer fy ymchwil israddedig.Ar ôl ymweld â stondin Comisiwn y Gyfraith mewn ffair tymhorau prawf, penderfynais ymgeisio.

Sut beth oedd y broses ymgeisio? Roedd y broses yn heriol ar y pryd. Ond ym mhob cam cefais gyfarwyddyd clir ac roeddwn yn gwybod beth oedd y disgwyliadau ohonof. Darllen y canllawiau i ymgeiswyr ac yna eu darllen eto! Maen nhw’n cynnwys gymaint o wybodaeth ddefnyddiol gan fy helpu i rannu’r broses ymgeisio’n nifer o gamau llai er mwyn gallu canolbwyntio ar werthu fy hun ym mhob cam.

Cyngor i ymgeiswyr: Rhowch ddigon o amser i chi eich hun i ddrafftio’r cais papur. Meddyliwch am beth sy’n eich gwneud yn unigryw gan egluro sut fyddai hyn yn fanteisiol i’r Comisiwn. Yna canolbwyntiwch ar ddrafftio ac ailddrafftio droeon! Defnyddiwch iaith syml a chryno a dilynwch drefn resymegol. Ein nod yw gwneud y gyfraith yn syml, modern a hygyrch felly mae’r cais ysgrifenedig yn gyfle i chi ddangos sut y gallech gyfrannu at gyflawni hyn.


Yasmin Ilhan

Tîm: Cyfraith Droseddol

Gradd: LLB yn y Gyfraith gyda Throseddeg, ac MSc mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus Rhyngwladol

Prifysgol: Prifysgol Frenhinol Holloway Llundain ac Ysgol Economeg a Gwyddorau Gwleidyddol Llundain

Profiad gwaith blaenorol: wrth astudio, mi wnes i wirfoddoli fel cynghorydd cyfreithiol ac ymchwilydd polisi gyda Chyngor ar Bopeth, fel marsial yn yr Old Bailey, a chwblhau mân-dymhorau prawf troseddol.

Prosiect: Dw i’n gweithio ar ddau brosiect: diwygio troseddau cyfathrebu; a thynnu, creu a rhannu delweddau preifat / rhywiol heb ganiatâd.

Beth yw eich cynlluniau i’r dyfodol? Dw i’n gobeithio parhau i weithio mewn polisi cyfreithiol, yn enwedig ar gyfiawnder troseddol a rhywedd.

Siaradwch am ddarn o waith diweddar: Dw i’n dadansoddi ymatebion i’n hymgynghoriad ar y prosiect delweddau preifat / rhywiol, ac yn ddiweddar mi wnes i arwain trafodaeth bolisi yn y tîm i ddatblygu ein hargymhellion terfynol ar sail yr ymatebion hynny.

Pam fyddech chi’n argymell gweithio i’r Comisiwn? Mae gweithio i Gomisiwn y Gyfraith yn rhoi cyfle eithaf prin i ddelio â materion sy’n gorwedd ar y ffin rhwng cyfraith a pholisi; nid yn unig yr ystyriwn gwestiynau cyfreithiol ond eu goblygiadau polisi ehangach hefyd.

Y peth gorau am weithio i Gomisiwn y Gyfraith: Dw i wedi gwir fwynhau cyfarfod â phobl o’r un meddylfryd gyda diddordebau ac amcanion tebyg a hefyd wedi gwerthfawrogi’r diwylliant gweithle di-hierarchaidd; mae’r ddau beth wedi gwneud i mi deimlo’n gyffyrddus iawn yn gweithio i Gomisiwn y Gyfraith.

Sut glywsoch chi am y swydd? Drwy fy mhrifysgol iraddedig.

Sut beth oedd y broses ymgeisio? Roedd y cais ysgrifenedig yn eithaf didrafferth ond yn eithaf heriol! Er bod y prawf a’r cyfweliad yn eithaf dwys, mi wnes i fwynhau’r ddau oherwydd roedd angen i ni ddad-greu’r gyfraith ac ystyried ei gwahanol oblygiadau polisi.

Cyngor i ymgeiswyr: Yn ogystal â’r cyngor arferol ar ymgeisio, dw i’n meddwl ei bod yn bwysig iawn cyfleu angerdd eich teimlad am y rôl. Bydd dangos eich bod yn teimlo’n gryf am y maes cyfraith hwn, y pynciau y gallech fod yn gweithio arnynt, a’r effaith y gallai eich gwaith ei chael ar eraill, yn mynd yn bell!