Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru

Current project status

  • Initiation: Could include discussing scope and terms of reference with lead Government Department
  • Pre-consultation: Could include approaching interest groups and specialists, producing scoping and issues papers, finalising terms of project
  • Consultation: Likely to include consultation events and paper, making provisional proposals for comment
  • Policy development: Will include analysis of consultation responses. Could include further issues papers and consultation on draft Bill
  • Reported: Usually recommendations for law reform but can be advice to government, scoping report or other recommendations

Cyhoeddwyd ein adroddiad terfynol a'n argymhellion ar Fehefin 29 2016. Anfonodd y Cwnsler Cyffredinol ymateb terfynol Llywodraeth Cymru ar 19 Gorffennaf 2017. Rydym yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru'n cytuno neu'n cytuno mewn egwyddor gyda'r mwyafrif llethol o'n hargymhellion (mae'r ymateb llawn i'w gael isod). Yn hanfodol, mae Llywodraeth Cymru'n "cytuno y byddai rhaglen hirdymor barhaus o godeiddio a chydgrynhoi cyfraith Cymru'n dod â manteision cymdeithasol ac economaidd, ac mae'n angenrheidiol i sicrhau bod deddfwriaeth Cymru'n hawdd ei chyrraedd." Bydd prosiect peilot sy'n edrych ar "gydgrynhoi, codeiddio a chyhoeddi'n well" yn rhedeg hyd fisoedd cynnar 2018.

Form and Accessibility of the Law Applicable in Wales

I weithwyr proffesiynol a’r cyhoedd, gall dod o hyd i’r gyfraith ar draws y DU, a’i deall, fod yn anodd. Yng Nghymru, mae datganoli wedi gwneud materion yn fwy cymhleth fyth.

Gall fod yn anodd iawn dod o hyd i’r gyfraith a’i deall mewn meysydd datganoledig, o ganlyniad i newidiadau i bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru. Ceir dryswch yn aml ynghylch pwy sy’n gyfrifol am beth. Mae swyddogaethau dan lawer o Ddeddfau Seneddol wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru, ond ni fydd hyn yn amlwg yn y Ddeddf wreiddiol ac fe allai ymddangos bod y pŵer yn parhau i fod ym meddiant yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae’r darlun yn cael ei gymhlethu ymhellach gan y cyflymder y mae rhannau sylweddol o’r gyfraith berthnasol yng Nghymru – fel addysg, iechyd a thai – yn dargyfeirio oddi wrth y gyfraith yn Lloegr.

Rydym yn argymell dull newydd o lunio deddfau yng Nghymru a ffyrdd o wneud y gyfraith bresennol sy’n berthnasol i Gymru yn gliriach, yn symlach ac yn haws cael gafael arni.

Dylai meysydd arwyddocaol yn y gyfraith yng Nghymru gael eu cyfuno a’u codeiddio. Byddai modd dod â deddfwriaethau sy’n ymwneud â meysydd fel addysg, tai, iechyd a chynllunio at ei gilydd mewn codau, gan greu un darn hwylus o brif ddeddfwriaeth ar gyfer pob pwnc. Mae ein prosiect ar y gyfraith cynllunio yng Nghymru wrthi’n datblygu enghraifft o’r model codeiddio hwn. I sicrhau bod codau’n aros yn gyflawn, rydym yn argymell mai’r unig ffordd o wneud diwygiadau neu ddeddfwriaeth yn y dyfodol yw drwy ychwanegu at y cod neu ei ddiwygio. Rydym hefyd yn argymell y dylai is-ddeddfwriaeth gael ei hail-greu yn unol â’r diwygiadau.

Mae deddfwriaethau’n cael eu llunio yn Gymraeg ac yn Saesneg yng Nghymru. Yn yr adroddiad, rydym yn edrych ar arferion presennol wrth ddrafftio a dehongli deddfwriaeth ddwyieithog, ac yn gwneud argymhellion i helpu Llywodraeth Cymru a’r farnwriaeth i ddatblygu deddfau a wneir yn Gymraeg a’u rhoi ar waith. Rydym yn gwahodd Llywodraeth Cymru i ystyried cyflwyno Deddf Ddehongli i gadarnhau ystyr a’r defnydd o derminoleg Cymraeg ym maes y gyfraith.

Rydym yn annog Llywodraeth Cymru a’r Archifau Cenedlaethol i ddiweddaru deddfwriaethau Cymru ar www.legislation.gov.uk, ac yn argymell datblygu gwefan bresennol Cyfraith Cymru i fod yn ganolbwynt i’r holl ffynonellau sy’n ymwneud â’r gyfraith yng Nghymru.

Documents and downloads

Project details

Area of law

Public law

Commissioner

Nicholas Paines KC