Rheoleiddio Diogelwch Tomennydd Glo yng Nghymru

Current project status

  • Initiation: Could include discussing scope and terms of reference with lead Government Department
  • Pre-consultation: Could include approaching interest groups and specialists, producing scoping and issues papers, finalising terms of project
  • Consultation: Likely to include consultation events and paper, making provisional proposals for comment
  • Policy development: Will include analysis of consultation responses. Could include further issues papers and consultation on draft Bill
  • Reported: Usually recommendations for law reform but can be advice to government, scoping report or other recommendations

Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad ar Ddiogelwch Tomenni Glo yng Nghymru.

Lawrlwythwch yr adroddiad yma.

Lawrlwythwch grynodeb yr adroddiad yma.

Click here to read the English version of this page.

Y broblem

Nid yw’r ddeddfwriaeth bresennol sy’n ymwneud a thomennydd glo yn delio’n effeithlon gyda’r rheolaeth o domennydd glo anweithredol. Mae hyn yn bwysig, am fod y tirlithriadau tomennydd glo digwyddodd yng Nghymru yn Chwefror 2020 yn dilyn Stormydd Ciara a Dennis yn dangos y peryglon posib mae tomennydd glo yn peri i gymdeithas a’r amgylchedd.

Ymddeddfwyd y ddeddfwriaeth gyfredol yn dilyn trychineb Aberfan yn 1966, pan lithrodd tomen lo ar ben ysgol gynradd, ac achosi marwolaethau 116 plant a 28 oedolyn. Fodd bynnag, mae’r ddeddfwriaeth yma yn ymwneud â chyfnod pan oedd diwydiant glo gweithredol, ac nid yw’n darparu fframwaith effeithlon ar gyfer rheoli tomennydd glo anweithredol yn yr unfed ganrif ar hugain. Yng Nghymru heddiw, mae ‘na bron i 2500 o domennydd glo anweithredol, gyda’r mwyafrif mewn perchnogaeth breifat.

Gyda’r rhagolwg o lawiad trymach fel canlyniad o newid hinsawdd, gwnaeth Llywodraeth Cymru sefydlu Tasglu Diogelwch Tomennydd Glo i gyflawni rhaglen o waith i ddelio gyda diogelwch o domennydd glo yng Nghymru. Mae rhaglen y Tasglu yn cynnwys ymateb i bryderon diogelwch byrdymor a chreu polisi hir-dymor i fynd i’r afael â gwaddol y tomennydd glo anweithredol. Mae prosiect Comisiwn y Gyfraith yn rhedeg yn gyfochr â’r gwaith yma.

Y prosiect

Gwnaeth Llywodraeth Cymru gofyn i Gomisiwn y Gyfraith i werthuso deddfwriaeth bresennol ac ystyried opsiynau ar gyfer deddfwriaeth newydd i sicrhau system reoleiddio gadarn, integredig ac ystyriol o’r dyfodol sy’n mabwysiadu dull unffurf ar gyfer arolygiad, cynhaliaeth a chadw cofnodion trwy gydol cylch bywyd pob tomen glo o greu i adawiad i waith adfer.

Ymgynghoriad

Cyhoeddwyd y papur ymgynghori ar 9 Mehefin 2021. Mae yn cynnwys ein canfyddiadau am y ffyrdd nid yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn gweithio’n dda ac yn gosod allan ein cynigion dros dro am fframwaith rheoliadol newydd ar gyfer tomennydd glo yng Nghymru. Ar ôl cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori a chyfarfodydd gydag ystod eang o rhanddeiliad, wnaeth yr ymgynghoriad cau ar 10 Medi 2021. Wnaeth ymatebion ymgynghoriad dangos cefnogaeth gref ar gyfer ein cynigion.

Adroddiad

Mae ein hadroddiad, a chyhoeddwyd ar 24 Mawrth 2022, yn wneud argymhellion ar gyfer fframwaith rheoliadol newydd ar gyfer tomennydd glo anweithredol. Bydd hwn yn hyrwyddo cysondeb y rheoliad o domennydd glo ar draws y wlad ac yn osgoi perygl trwy gyflwyno dull rhagweithiol yn hytrach na dulliau adweithiol. Mae’r fframwaith arfaethedig yn cynnwys cyflwyniad:

  • Un awdurdod goruchwylio fydd â dyletswydd i berfformio ei swyddogaethau i sicrhau diogelwch tomennydd glo anweithredol a chyflawni cydymffurfiad gyda’r anghenion rheoleiddiol i safon gyson ar draws Cymru.
  • Cofrestr tomennydd, wedi’i ffurfio a chynnal gan yr awdurdod goruchwylio bydd yn cynnwys ystod eang o wybodaeth yn cynnwys dosbarthiad risg a mesurau cynnal a chad war gyfer bob tomen anweithredol.
  • Archwiliadau o bob un tomen ar gyfer y pwrpas o greu asesiad risg a dylunio cynllun rheoli tomen, sy’n cynnwys ystyriaeth o’r risgiau o ansefydlogrwydd, llifogydd, llygredd a hylosgiad.
  • Cytundebau cynnal a chadw a gorchmynion gyda pherchnogion a deiliaid ar gyfer tomennydd risg is i sicrhau’r bod y cynnal a chadw gofynnol i atal y tomen rhag dod yn berygl yn cael ei wneud.
  • Ar gyfer y tomennydd glo sydd wedi eu dynodi yn risg uwch, cyfundrefn ddiogelwch uwch gyda mwy o gyfranogiad gan yr awdurdod goruchwylio i reoli’r tomen a lleihau’r posibilrwydd o ddigwyddiadau peryglus sylweddol.

Camau nesaf

Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried ein hargymhellion.

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, allwch gysylltu â’r tîm trwy e-bostio: CoalTips@lawcommission.gov.uk

Documents and downloads

Project details

Area of law

Public law

Commissioner

Nicholas Paines KC