Rydym wedi nodi rhai meysydd o’r gyfraith y mae ein profiad a’n trafodaethau â rhanddeiliaid yn awgrymu y gallai fod angen eu diwygio. Gallent fod yn brosiectau posib ar gyfer y Rhaglen. Hoffem glywed eich barn ar y rhain, a pha un a ydych chi o’r farn y dylent fod yn rhan o’n gwaith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Rhesymoli

Sut y gallwn ni symleiddio’r gyfraith?

Un o gyfrifoldebau craidd Comisiwn y Gyfraith, fel y diffinnir hynny yn Neddf Comisiynau’r Gyfraith 1965, yw symleiddio’r gyfraith. Mae nifer o ddulliau posibl wedi cael eu hawgrymu.

Yn y gyfraith droseddol dywedir yn aml fod nifer y troseddau mewn grym ar hyn o bryd yn ormodol. A oes cyfle i symleiddio heb leihau gwarchodaeth i’r cyhoedd y mae’r gyfraith droseddol yn ei ddarparu? Os felly, ar ba feysydd y dylai’r Comisiwn ganolbwyntio?

Yn y llysoedd sifil, mae llawer o bartïon yn ymgyfreithwyr drostynt eu hunain. Mae cyfraith gymhleth yn ei gwneud yn anodd i bobl ddod o hyd i’w ffordd drwy’r system. Mae gennym ddiddordeb, felly, mewn awgrymiadau ynghylch meysydd lle byddai’n ddefnyddiol ac yn ymarferol i symleiddio’r gyfraith, er enghraifft mewn perthynas ag eiddo lesddaliadol preswyl, neu agweddau ar gyfraith cyflogaeth unigol.

Dull arall yw cymryd mater penodol, megis sefydlu busnes bach, a dadansoddi’r fframwaith cyfreithiol sy’n rheoli’r broses ac a ellir ei symleiddio. Mantais hyn fyddai ystyried y gyfraith o safbwynt y defnyddiwr.

Rydym yn awyddus i glywed am syniadau yn ymwneud ag unrhyw un o’r tri dull a amlinellwyd uchod, ynghyd â barn am y manteision ymarferol a fydd yn deillio o ymagwedd fwy syml at y gyfraith.

Beth yw eich barn chi?

Rydym yn awyddus i glywed am syniadau sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r tri dull a nodwyd uchod, ynghyd â barn ar y manteision ymarferol a fydd yn deillio o ddull symlach o ymdrin â’r gyfraith. Defnyddiwch y ffurflen hon i anfon eich sylwadau atom ni ar y prosiect posib hwn drwy e-bostio programme@lawcommission.gsi.gov.uk.

Dychwelyd at y prosiectau a awgrymwyd gan Gomisiwn y Gyfraith