Rydym wedi nodi rhai meysydd o’r gyfraith y mae ein profiad a’n trafodaethau â rhanddeiliaid yn awgrymu y gallai fod angen eu diwygio. Gallent fod yn brosiectau posib ar gyfer y Rhaglen. Hoffem glywed eich barn ar y rhain, a pha un a ydych chi o’r farn y dylent fod yn rhan o’n gwaith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Safonau deddfwriaethol i Gymru

A ddylai deddfwriaeth Cymru fod yn destun safonau deddfwriaethol gwrthrychol newydd?

Argymhellodd ein hadroddiad ar Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith yng Nghymru y byddai Cymru yn elwa o sefydlu set o safonau deddfwriaethol.

Yn fras, mae safonau deddfwriaethol yn cael eu cyfeirio at lywodraethau ac yn gosod safonau ynghylch yr hyn y dylai darn o ddeddfwriaeth geisio ei gyflawni a sut y dylid ei gyflwyno i’r ddeddfwrfa. Mantais allweddol safonau deddfwriaethol yw eu bod yn darparu ffon fesur wrthrychol i fesur ansawdd y ddeddfwriaeth yn eu herbyn.

Wrth roi ystyriaeth ofalus iddynt, gallai safonau o’r fath fod yn adnodd gwerthfawr i swyddogion y llywodraeth wrth ystyried a ddylid deddfu a sut i wneud hynny. Ar ben hynny, gallent hysbysu’r asesiad am ddeddfwriaeth arfaethedig gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, pwyllgorau eraill y Cynulliad ac yn ehangach – er enghraifft yng nghyd-destun gwaith craffu cyn y broses ddeddfu. Gallai set glir a hygyrch o safonau, a gytunwyd yn ddelfrydol rhwng y llywodraeth a’r Cynulliad, y gallai cyfraith dda neu ddrwg gael ei barnu yn synhwyrol yn eu herbyn, fod yn arf pwerus ar gyfer cyflawni deddfwriaeth o ansawdd gwell.

Beth yw eich barn chi?

A ddylem ystyried cynnwys y prosiect hwn yn ein 13eg Raglen ar gyfer diwygio’r gyfraith? Defnyddiwch y ffurflen hon i anfon eich sylwadau atom ni ar y prosiect posib hwn drwy e-bostio programme@lawcommission.gsi.gov.uk.

Dychwelyd at y prosiectau a awgrymwyd gan Gomisiwn y Gyfraith