Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad ar dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru.

Lawrlwythwch yr adroddiad yma.

Lawrlwythwch grynodeb yr adroddiad yma.

Mae’r dudalen hon ar gael yn Saesneg yma.

Y broblem

Corff yw tribiwnlys a gaiff ei sefydlu i ddatrys anghydfodau, fel arfer yn deillio o benderfyniadau cyrff cyhoeddus. Ond mae’r rheolau a’r gweithdrefnau ar gyfer tribiwnlysoedd datganoledig Cymru yn gymhleth ac yn anghyson, ac mewn rhai achosion, yn anaddas at y diben.

Mae hyn gan fod y rheolau a’r gweithdrefnau sy’n llywodraethu tribiwnlysoedd Cymru wedi cael eu datblygu o ystod helaeth o ddeddfwriaeth wahanol. Cafodd llawer o’r ddeddfwriaeth ei datblygu y tu hwnt i’r broses ddatganoli, sydd wedi arwain at fylchau.

Er enghraifft, nid yw newidiadau a ddaeth i rym drwy Ddeddf Cymru 2017 wedi cael eu hystyried, gan gynnwys presenoldeb Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru a maes gwaith ehangach y Senedd. Ar y cyfan, nid yw’r system yn gydlynol, ac mae diffyg hyblygrwydd.

Y prosiect

Roedd y prosiect yn ystyried sut gellid gwella system tribiwnlysoedd datganoledig Cymru. Gwnaethom gyhoeddi papur ymgynghoriad ar 16 Rhagfyr 2020, a chyhoeddi ein hadroddiad ar 9 Rhagfyr 2021.

Yn ein hadroddiad, argymhellwn y dylid:

  • Disodli tribiwnlysoedd presennol Cymru gyda Thribiwnlys Haen Gyntaf unedig i Gymru, a fydd yn cael ei rannu’n siambrau. Byddai’r system hon yn fwy hyblyg ac yn gallu ymateb i ac addasu i newidiadau i’r dyfodol.
  • Cynnwys Tribiwnlys Prisio Cymru (sy’n annibynnol ar hyn o bryd) yn y Tribiwnlys Haen Gyntaf, a gwaith paneli apeliadau ysgolion. Byddai Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru yn cynnwys – ymhlith rhai eraill – siambrau eiddo, addysg, iechyd meddwl a’r Gymraeg.
  • Creu Tribiwnlys Apêl i Gymru, er mwyn clywed apeliadau o’r Tribiwnlys Haen Gyntaf. Byddai hefyd llwybr apeliadau newydd o baneli apeliadau derbyn i ysgolion i’r siambr addysg.
  • Creu pwyllgor gweithdrefnau tribiwnlysoedd newydd, a fydd yn gyfrifol am adolygu a diweddaru’r rheolau gweithdrefnol yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod nhw’n ymateb i amgylchiadau newidiol ac yn parhau i fod yn gyfredol.
  • Amddiffyn annibyniaeth barnwrol, drwy:
    • Greu Gwasanaeth Gweinyddu Tribiwnlysoedd newydd i Gymru, er mwyn disodli’r Uned Tribiwnlysoedd Cymru presennol. Dylai’r adran fod yn un nad yw’n weinidogol, gyda mwy o rôl i farnwyr.
    • Gosod dyletswydd statudol newydd ar Weinidogion Cymru a phawb sy’n gyfrifol am weinyddu tribiwnlysoedd i gynnal eu hannibyniaeth.

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y prosiect, e-bostiwch DevolvedTribunalsWales@lawcommission.gov.uk