Mae Comisiwn y Gyfraith wedi treulio ychydig o amser yn ystyried rhai syniadau ar gyfer meysydd posibl lle gellid diwygio’r gyfraith. Rydym wedi awgrymu nifer o’r syniadau hyn isod. Rydym yn pwysleisio mai syniadau cychwynnol yn unig yw’r rhain ac nad ydym yn rhoi blaenoriaeth i’r meysydd hyn dros unrhyw feysydd eraill a allai gael eu hawgrymu fel rhan o ymgynghoriad y 14eg Raglen. Nid ydym ychwaith wedi profi’r syniadau hyn yn eang, gan gynnwys asesu a ydynt yn debygol o gael eu cefnogi gan y Llywodraeth. Eu bwriad yw rhoi syniad o hyd a lled y gwaith y gallem ei ystyried. Er hyn rydym yn awyddus i glywed eich barn chi am yr awgrymiadau hyn.

Os oes gennych unrhyw sylwadau ar y syniadau yma neu syniadau eraill ar gyfer diwygio’r gyfraith, ymwelwch â’n gwefan yma.

Yn ôl i tudalen y 14eg Rhaglen.

Mae’r dudalen yma ar gael yn Saesneg – This page is available in English.

Mynegai

  1. Deddf Cyflafareddu 1996 a cyflafareddu cyfraith ymddiriedolaeth
  2. Gwneud penderfyniadau awtomataidd 
  3. Les-ddaliad Masnachol
  4. Gwrthdaro rhwng deddfau a thechnoleg sy’n dod i’r amlwg
  5. Dirmygu Llys
  6. Rhannu data a’r gyfraith wybodaeth
  7. Gweithredoedd ac amrywio contractau
  8. Cyfraith Teulu
  9. Prynu Cartref
  10. Cyfiawnder yn yr oes ddigidol
  11. Amddiffyniad Cyfreithiol i’n Hamgylchedd
  12. Tir heb berchennog
  13. Gwerthiannau rhwng cyfoedion
  14. Atebolrwydd cynnyrch a thechnoleg sy’n dod i’r amlwg
  15. Adolygiad o Bwerau Apelio yn y Llysoedd Troseddol
  16. Datblygiadau Technegol ac Effeithlonrwydd Gweithdrefnol yn y Llysoedd Troseddol
  17. Chwilio, Cynhyrchu ac Atafaelu Deunydd Electronig
  18. Llyfr statud y DU

 

Deddf Cyflafareddu 1996 a cyflafareddu cyfraith ymddiriedolaeth

Sut allwn sicrhau bod y DU yn dal i fod ar y rheng flaen ar gyfer datrys anghydfodau?

Canmolwyd Deddf Cflafareddu 1996 am helpu i sicrhau bod y DU – a Llundain yn arbennig – yn gyrchfan flaengar ar gyfer cflafareddu masnachol. Fodd bynnag, eleni gwelir 25ain pen blwydd Deddf Cflafareddu 1996 sy’n cyflwyno cyfle da i’w hail-ystyried, yn arbennig gan fod awdurdodaethau eraill wedi deddfu diwygiadau mwy diweddar. Byddai’r prosiect arfaethedig hwn yn adolygu Deddf 1996, ac, os oes angen, byddai’n awgrymu diwygiadau posibl. Y nod fyddai cynnal atyniad Cymru a Lloegr fel “cyrchfan” ar gyfer datrys anghydfodau a goruchafiaeth Cyfraith Lloegr fel dewis ym maes y gyfraith.

Dywedwyd wrthym yn y gorffennol bod rhanddeiliaid yn cefnogi cyflwyno pŵer penodol ar gyfer gweithdrefn ddiannod ar ddull dyfarniad. Hoffem wybod a yw hyn yn dal i fod yn wir.

Mae rhanddeiliaid hefyd wedi awgrymu y gellid lledaenu cwmpas adolygiad gan Gomisiwn y Gyfraith, o bosibl yn ystyried materion sy’n cynnwys pŵer i ddileu hawliadau sydd heb deilyngdod; y weithdrefn ar gyfer herio penderfyniad gan awdurdodaeth ac a ddylai fod yn haws i apelio dyfarniadau; sicrhau cydnerthedd cyfreithiol (er enghraifft, trwy ganiatáu cyflwyno hysbysiad trwy e-bost); cyflwyno rwymedïau ar gyfer oedi yn y broses gyflafareddu; ac egluro’r gwahaniaeth rhwng y drefn orfodi ar gyfer dyfarniadau Rhan 1 a dyfarniadau NYC. Byddem yn croesawu barn ar y materion hyn

Ar wahân, mae ymatebion i ymgyngoriadau rhaglenni blaenorol wedi gwneud achos cryf o blaid cyflwyno cyflafareddu cyfraith ymddiriedolaeth, nad yw’n bosibl o dan y gyfraith gyfredol. Rydym yn parhau i archwilio’r achos o blaid gwneud gwaith yn y maes hwn, y gellid ei symud ymlaen o bosibl ochr yn ochr â gwaith ehangach y Comisiwn ym maes ymddiriedolaethau, yr hyn nad yw wedi’i gychwyn eto.

Dychwelyd i’r mynegai.

Gwneud penderfyniadau awtomataidd

A ddylid datblygu fframwaith cyfreithiol i gefnogi’r awtomasiwn cynyddol wrth wneud penderfyniadau cyhoeddus? 

Mae systemau gwneud penderfyniadau awtomataidd yn defnyddio algorithmau – set o reolau neu gyfarwyddiadau i’w dilyn – er mwyn cynorthwyo pobl wrth wneud penderfyniadau. Mae rhai yn systemau wedi’u seilio ar reolau sy’n gweithredu “coeden penderfyniadau” i fodelu a gweithredu set o reolau. Mae eraill yn cynnwys dysgu peiriant mwy soffistigedig, sy’n defnyddio modelau ystadegol a setiau data i wneud penderfyniadau sy’n gwella wrth symud ymlaen. Nod pob system o’r fath yw arbed amser, lleihau cost, a gwella ansawdd a chysondeb penderfyniadau a wneir, fel arfer, gan bobl.

Bydd harneisio potensial technoleg i wella a moderneiddio gwasanaethau cyhoeddus yn her allweddol yn y blynyddoedd sy’n dod. Wrth reoleiddio rhyngweithiadau rhwng y llywodraeth a’i dinasyddion, mae’r gyfraith weinyddol yn canolbwyntio ar gyfreithlondeb penderfyniadau gan swyddogion, yn hytrach na’r systemau TG a ddefnyddir yn y cefndir. Ond mae’r berthynas rhwng technoleg a gwneud penderfyniadau cyhoeddus yn newid. Wrth i gyfraddau mabwysiadu platfformau algorithmig soffistigedig yn y sector cyhoeddus gynyddu, bydd cwestiynau’n dod i’r amlwg ynghylch risg gwallau, tuedd, tryloywder a hyder y cyhoedd o ran canlyniadau. Mae’r cyhoedd yn ceisio sicrwydd bod y prosesau awtomataidd hyn yn deg ac yn wrthrychol. Ar yr un pryd mae swyddogion sy’n dymuno harneisio datblygiadau technegol yn ceisio sicrwydd cyfreithiol. Dylid osgoi dirymiadau costus yn y llysoedd, efallai fisoedd neu flynyddoedd ymlaen ar y cylch datblygu.  Rydym yn credu bod y 14eg Rhaglen yn cynnig cyfle amserol i archwilio pa newidiadau i’r fframwaith cyfreithiol sydd eu hangen ochr yn ochr â datblygiadau presennol o ran arferion gorau, moeseg data, ac arferion caffael gorau.

Felly rydym yn croesawu barn ynghylch a ddylai ein Rhaglen nesaf o ddiwygio’r gyfraith gynnwys adolygiad o’r fframwaith cyfreithiol sy’n llywodraethu rôl awtomatiaeth ym maes gwneud penderfyniadau cyhoeddus. Mae gennym ddiddordeb arbennig i ganfod a oes meysydd polisi neilltuol – er enghraifft nawdd cymdeithasol, neu lywodraeth leol – a fyddai’n elwa o gael sylw cynnar.

Dychwelyd i’r mynegai.

Les-ddaliad Masnachol

A oes meysydd cyfraith fasnachol ar gyfer lanlordiaid a thenantiaid sy’n creu cyfyngiadau, aneffeithlonrwyddau neu gostau diangen?

Mae Rhan 2 Deddf Lanlord a Thenant 1954, sy’n darparu sicrwydd deiliadaeth ar gyfer tenantiaid busnes, wedi’i beirniadu gan nad yw’n diwallu anghenion busnesau. Gallai diwygio yn y maes hwn gyfrannu at adfywio’r stryd fawr, yn arbennig yng nghyd-destun adfer o COVID. Gallai prosiect ystyried i ba raddau y bydd sicrwydd yn parhau i gyflawni swyddogaeth bwysig, yn ogystal â (neu yn lle) ystyried newidiadau technegol sy’n llai radicalaidd, ond sy’n sylweddol, i’r gyfundrefn bresennol gan gynnwys symleiddio’r broses lle gall tenant optio allan o sicrwydd trwyddi.

Mae Deddf Lanlord a Thenant (Cyfamodau) 1995 yn achosi problemau ymarferol o ran aseinio lles-ddaliadau sy’n fasnachol bwysig.  Yn arbennig, mae “Cytundebau Gwarant Awdurdodedig” ac effaith‑darpariaethau gwrth-osgoi, a fwriadwyd yn wreiddiol i fod o les i denantiaid, yn creu problemau ar gyfer‑aseiniadau rhwng grwpiau ac aseiniadau cydsyniol eraill.

Rydym yn credu bod meysydd eraill y gellid eu hadolygu. Er enghraifft, gallai’r prosiect ystyried y gyfundrefn gymhleth ar gyfer dadfeiliadau terfynol.

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi adolygiad o ddeddfwriaeth fasnachol ar gyfer landlordiaid a thenantiaid, i gychwyn yn ddiweddarach eleni. Byddwn yn gwylio’r adolygiad hwnnw â diddordeb er mwyn gweld a fydd unrhyw waith gan Gomisiwn y Gyfraith yn cyd-fynd ag ef, a sut y byddai’n cyd-fynd ag ef. Yn y cyfamser, rydym yn croesawu eich cipolygon ar unrhyw broblemau rydych wedi dod ar eu traws.

Dychwelyd i’r mynegai.

Gwrthdaro rhwng deddfau a thechnoleg sy’n dod i’r amlwg

Beth yw’r heriau awdurdodaethol a gyflwynir gan dechnolegau sy’n dod i’r amlwg

Mae prosiectau diweddar Comisiwn y Gyfraith sy’n gysylltiedig â thechnoleg wedi nodi nifer o faterion ynghylch gwrthdaro deddfau, megis y broblem wrth bennu a fydd llys penodol yn cael awdurdodaeth i wrando ar anghydfod mewn cysylltiad â chontract clyfar. Gan fod asedau anniriaethol a chontractau clyfar wedi dod mor gyffredin yn y “byd rhithiol”, mae anawsterau cynhenid o ran pennu lleoliad daearyddol gweithredoedd, gweithredwyr, a gwrthrychau anniriaethol. Er enghraifft, pan yw ased digidol yn cael ei gynnal ar lyfr cyfrifon wedi’i ddatganoli, wedi’i ddosbarthu, ble mae ef? Ac os yw’n cael ei drosglwyddo neu ei gamddefnyddio, o ble mae wedi symud, ac i ble mae wedi symud?

Mae’r maes hwn o’r gyfraith yn ansicr ar hyn o bryd, ac mae ymdeimlad bod y gymuned fasnachol ryngwladol yn aros i awdurdodaeth gydio yn y broblem. Mae’n bosibl bod diffyg eglurdeb ynghylch y rheolau’n rhwystro’r derbyniad o dechnoleg newydd, a sydd efallai’n fwy effeithlon. Gallai Comisiwn y Gyfraith egluro’r sefyllfa gyfreithiol ddomestig, a nodi sefyllfaoedd lle gallai fod angen datblygu rheolau newydd yn hytrach nag ymestyn rhai presennol yn gyfatebol.

Rydym yn ceisio barn ymgyngoreion ynghylch a fyddai’n ddefnyddiol i’r diwydiant i Gomisiwn y Gyfraith ymgymryd â darn o waith yn y maes hwn.  O gofio natur ryngwladol y maes hwn o’r gyfraith, byddai angen i ni ystyried a fyddai argymhellion ar gyfer diwygio’r gyfraith ddomestig yn ddefnyddiol neu’n briodol. Fel arall, gallem gynhyrchu ystod o opsiynau ar gyfer diwygio, trafod a negodi ar lefel ryngwladol.

Dychwelyd i’r mynegai.

Dirmygu Llys

A oes angen am fwy o eglurder mewn cysylltiad â dirmyg yng ngŵydd y llys a’r gyfraith ddirmygu ar lefel ehangach?

Mae Comisiwn y Gyfraith wedi cynhyrchu tri adroddiad yn y maes hwn, ynghylch ‘tramgwyddo’r llys‘, ‘camymddygiad gan reithwyr chyhoeddiadau’r rhyngrwyd’ ac adrodd yn y llysoedd. Mae llawer o’n hargymhellion yn y ddau Adroddiad cyntaf wedi’u gweithredu. Rydym yn aros i glywed gan y Llywodraeth ar yr argymhellion a wnaed gennym yn y trydydd adroddiad Fe wnaethom ymgynghori ar ddirmyg yng ngŵydd y llys ond ataliwyd gwaith ar y darn hwn o’r gyfraith er mwyn symud prosiectau mwy enbyd eraill ar gyfer diwygio’r gyfraith ymlaen.

Fe fu nifer o achosion proffil uchel yn ddiweddar ar y gyfraith ddirmygu, yn fwyaf nodedig: Cyfarwyddwr y Swyddfa Twyll Difrifol v O’Brien; Y Twrnai Cyffredinol v Yaxley-Lennon; Gubarev v Orbis Business Intelligence Ltd; ac, R (Finch) v Surrey. O’u hystyried ochr yn ochr â barnau rhanddeiliaid yr ydym wedi siarad â nhw, rydym yn awgrymu y gallai’r amser fod yn gywir i ailgychwyn ein gwaith yn y maes hwn.

Yn ein gwaith cynharach ar ddirmyg fe wnaethom nodi difffyg eglurder ynghylch pa ymddygiad sy’n golygu dirmyg yng ngŵydd y llys a’r ffaith yr ymdrinir ag ef yn wahanol gan lysoedd gwahanol. Byddai angen i ni ailystyried y casgliadau rhagarweiniol hyn yng ngolau datblygiadau cyfoes.

Hefyd efallai y byddai teilyngdod mewn ystyried adolygu a chyfundrefnu’r gyfraith yn fwy cyffredinol. Nid ydy dirmygu llys wedi ei godeiddio yn llawn yng Nghymru a Lloegr. Fe wnaeth Deddf Dirmygu Llys 1981 addasu’r ffordd yr oedd cyfraith gyffredin ynghylch atebolrwydd llym yn gweithredu, ac fe wnaeth Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 greu troseddau newydd ynghylch dirmyg rheithwyr trwy ddiwygiadau i Ddeddf Rheithgorau 1974. Ond mae anghysondebau’n aros ynghylch amddiffyn cyrff barnwrol trwy’r ddeddf dirmyg: mae gan yr Uwch Dribiwnlys bŵer i fynd rhagddo yn erbyn dirmyg iddo, ond nid yw hyn yn wir i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf na thribiwnlysoedd eraill. Nid yw’r gwahaniaeth rhwng “sifil” a “throseddol” yn cyfateb i’r gwahaniaeth a dderbynnir yn gyffredinol rhwng camweddau sifil a throseddol; yn ddiweddar fe wnaeth y Comisiwn Diwygio Cyfraith Fictoraidd argymell y dylid diddymu’r gwahaniaeth rhwng dirmyg sifil a throseddol. Ai’r cysyniad o ddirmygu llys, â’i awgrymiadau o amharch a sarhad, yw’r mecanwaith gorau ar gyfer gwrthsefyll anufudd-dod i orchmynion anariannol llysoedd a thribiwnlysoedd? Nid ydym wedi ystyried yr achos o blaid adolygiad llawn yn ein gwaith blaenorol a byddem yn croesawu barnau gan ymgyngoreion.

Dychwelyd i’r mynegai.

Rhannu data a’r gyfraith wybodaeth

A ddylai fod adolygiad o egwyddorion rhannu gwybodaeth rhwng cyrff cyhoeddus?

Yn 2014, fe wnaethom argymell y dylai prosiect diwygio’r gyfraith ystyried sefydlu un fframwaith ar gyfer rhannu data rhwng cyrff a sefydliadau cyhoeddus sy’n cynnal swyddogaethau cyhoeddus. Dywedasid wrthym fod y gyfraith yn gymhleth ac yn aneglur, gan arwain ar rwystrau gwirioneddol a chanfyddiadol i rannu data mewn modd dymunol er budd y cyhoedd. Ers hynny, fe wnaeth Deddf yr Economi Digidol 2017 gyflwyno darpariaethau newydd ar gyfer rhannu gwybodaeth i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus digidol mwy effeithlon a mwy effeithiol. Ond mae llawer o byrth sector-benodol yn aros ar y llyfr statud, ac mae’r cefndir polisi a thechnolegol wedi symud ymlaen yn sylweddol.

Erbyn hyn mae’r gyfraith wybodaeth yn cael ei llywodraethu’n gyffredinol gan gymysgedd o gyfraith ddomestig a chyfraith a gedwir o’r UE a gynhwysir yn Neddf Diogelu Data 2018 a GDPR y DU. Mewn adroddiad diweddar fe wnaeth y Ganolfan er Moeseg Data ac Arloesi (CDEI) amlygu pwysigrwydd mynd i’r afael ag ymddiriedaeth a hyder ym mhrosesu a rhannu yn y sector cyhoeddus. Wrth i’r Llywodraeth ddatblygu ei pholisi ar strategaeth data, gallai’r ychydig flynyddoedd nesaf fod yn gyfleus i ddiwygio’r gyfraith yn y maes hwn. Gallai hyn ganolbwyntio ar gysoni’r ddeddfwriaeth bresennol ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.  Mae’n bosibl bod angen addasu’r ddeddfwriaeth i gydfynd â galwadau modern, megis mewn cysylltiad â data amhersonol, dienw, neu â ffugenw, er enghraifft. Rydym yn awyddus i glywed syniadau ynghylch y maes hwn o’r gyfraith.

Dychwelyd i’r mynegai.

Gweithredoedd ac amrywio contractau

Sut allwn ni foderneiddio’r gyfraith ynghylch gweithredoedd ar gyfer partïon masnachol wrth ddal i amddiffyn unigolion hyglwyf?

Mae’n rhaid gweithredu dogfennau penodol fel gweithredoedd (sy’n golygu bod rhaid iddynt gael eu llofnodi, tystio ac ardystio) er mwyn bod yn ddilys. Mae rhai rhanddeiliaid wedi dweud bod y gofynion hyn yn hen ffasiwn ac nad ydynt yn addas i’r diben bellach, sy’n eu gwneud yn rhy feichus ar gyfer partïon masnachol, yn arbennig yng nghyd-destun y pandemig Covid-19 a’r cyfyngiadau symud.

Byddai adolygiad gan Gomisiwn y Gyfraith yn adeiladu ar ein gwaith blaenorol ar weithredu electronig, asesu’r gofynion presennol ar gyfer gweithredu gweithredoedd (ar ffurf electronig, ac ar bapur) a gwneud cynigion ar gyfer diwygio. Rydym yn credu y dylai’r adolygiad gynnwys gwaith craffu gofalus ar yr angen i amddiffyn pobl hyglwyf sy’n llofnodi dogfennau â chanlyniadau cyfreithiol arwyddocaol. Er enghraifft, efallai y dylid datblygu cynigion gwahanol ar gyfer unigolion a chyrff masnachol.

Hefyd dylid archwilio i ba raddau y defnyddir gweithredoedd ar hyn o bryd gan bartïon masnachol i osgoi’r angen i ystyried (sy’n mynnu bod rhaid darparu rhywbeth o werth ar gyfer addewid), yn arbennig mewn cysylltiad ag amrywio contract. Yn ddiweddar fe wnaeth y Goruchaf Lys nodi yn Rock Advertising v MWB Business Exchange Centres Ltd bod y mater o ystyried ar gyfer amrywio contract yn “anodd” ac yn “barod i’w ailarchwilio”.

Fe wnaethom ystyried gweithredoedd yn ein hadroddiad Gweithredu Gweithredoedd yn Electronig yn 2019 lle gwnaethom argymell y dylai’r Llywodraeth ofyn i Gomisiwn y Gyfraith gynnal adolygiad o’r gyfraith ynghylch gweithredoedd. Mae’r Arglwydd Ganghellor wedi dweud y bydd y Llywodraeth yn gofyn i Gomisiwn y Gyfraith ymgymryd â’r adolygiad hwn, er bod yr amseru ar gyfer y prosiect yn amodol ar flaenoriaethau cyffredinol. Rydym yn ceisio barn ymgyngoreion ynghylch y flaenoriaeth y dylem ei rhoi i’r prosiect hwn, a thystiolaeth ynghylch unrhyw anawsterau a brofir wrth weithredu gweithredoedd, yn arbennig yng nghyd-destun y pandemig Covid-19.

Dychwelyd i’r mynegai.

Cyfraith Teulu

Pa feysydd o gyfraith teulu sydd angen eu diwygio?

Ar hyn o bryd mae’r Comisiwn yn cynnal prosiectau ar gyfraith benthyg croth a chyfraith Priodasau. Hoffem gynnwys prosiect cyfraith teulu newydd yn ein 14eg rhaglen, a gwahodd awgrymiadau gan ymgyngoreion. Efallai y bydd gwaith newydd yn gysylltiedig â meysydd mae’r Comisiwn wedi’u hystyried yn y gorffennol neu ag agweddau hollol newydd o gyfraith teulu.

Wrth nodi a fydd prosiect cyfraith teulu newydd yn debygol o fod yn addas ar gyfer Comisiwn y Gyfraith, mae’n bwysig gwahanu problemau y gellir eu datrys trwy ddadansoddiad cyfreithiol manwl ac y gellir mynd i’r afael â nhw trwy newidiadau strwythurol i’r gyfraith, rhag problemau ynghylch sut mae’r gyfraith yn cael ei gweithredu’n ymarferol. Nid yw materion sy’n gysylltiedig, er enghraifft, â chyllid ac adnoddau, yn addas ar gyfer Comisiwn y Gyfraith Yn yr un modd, mae’n annhebygol y bydd y Llywodraeth yn darparu’r cytundeb angenrheidiol i Gomisiwn y Gyfraith weithio ar feysydd sy’n wleidyddol sensitif y mae eisoes wedi mabwysiadau barn bolisi arnynt.

Rydym yn ymwybodol o bryder arbennig ymhlith rhai rhanddeiliaid ynghylch agweddau ar gyfraith plant; er enghraifft, i ba raddau mae’r gyfraith yn effeithiol wrth roi llais i blant mewn materion sy’n effeithio arnynt ac wrth gefnogi’r hawliau a roddir i blant o dan erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Ond mae gennym ddiddordeb hefyd mewn materion sy’n effeithio ar oedolion, gan gynnwys canlyniadau cyfreithiol toriad mewn perthynas, a materion sy’n effeithio ar grwpiau arbennig, megis mynediad i wybodaeth ynghylch eu gwreiddiau (er enghraifft, i’r rhai sy’n cael eu geni trwy feichiogi â chymorth). Rhowch wybod i ni am eich syniadau.

Dychwelyd i’r mynegai.

Prynu Cartref

A yw’n amser ailystyried yr holl broses ar gyfer prynu cartref?

Mae’n bosibl mai prynu cartref yw un o’r trafodiadau pwysicaf y bydd unigolyn yn ei wneud yn ystod eu bywyd, ond hefyd gall fod yn un o’r trafodiadau mwyaf ingol. Gall y broses i brynu cartref fod yn araf, cymhleth ac aneglur, ac mae posibilrwydd y tynnir costau sylweddol ymlaen llaw heb unrhyw warant y bydd y gwerthiant yn parhau.

Ag oddeutu un filiwn o drafodiadau preswyl bob blwyddyn yn y DU, mae gan wella’r ffordd y prynir cartrefi, a chyflymu’r broses honno, y potensial i wella bywydau, a chynhyrchu arbedion ar gyfer, nifer fawr o bobl a’u teuluoedd. Hefyd gallai gwelliannau helpu i gyflwyno mesurau effeithlonrwydd i’r farchnad dai, yn ogystal â galluogi trawsgludwyr yn well i roi cyngor cywir ac amserol, a gwella eu harferion a gweithdrefnau.

Codwyd mater diwygio’r broses ar gyfer prynu cartref gyda ni ar adeg ein Trydedd Rhaglen ar Ddeg o Ddiwygio’r Gyfraith, ond, oherwydd gwaith y Llywodraeth ei hun yn y maes hwn, fe ddaethom i’r casgliad nad oedd yr amser yn iawn i Gomisiwn y Gyfraith ymgymryd â phrosiect. Mae diddordeb y Llywodraeth yn y maes hwn yn parhau. Fodd bynnag, rydym yn croesawu’ch barnau ar a ddylai Comisiwn y Gyfraith ymgymryd â phrosiect yn y maes hwn yn ystod cyfnod ein Pedwaredd Rhaglen ar Ddeg o Ddiwygio’r Gyfraith.

Rydym hefyd yn croesawu’ch barnau ar beth y gallai prosiect ei ystyried. Er enghraifft, gallem archwilio’r cyfundrefnau mewn awdurdodaethau eraill ac ystyried ai’r egwyddor prynwr i fod yn wyliadwrus, sy’n mynnu bod pob prynwr yn archwilio teitl, yw’r man cychwyn priodol ar gyfer prynu cartref. Hefyd gallai prosiect archwilio rôl technoleg yn y broses ar gyfer prynu cartref, ac a oes rhwystrau a fyddai’n ei hatal rhag trawsnewid prosesau a gweithdrefnau, fel y mae wedi’i wneud ar gyfer trafodiadau eraill.

Byddem hefyd yn croesawu’ch barnau ar a ellir datrys problemau ynghylch prynu cartref trwy weithredu yn y farchnad, neu a oes angen diwygio’r gyfraith.

Dychwelyd i’r mynegai.

Cyfiawnder yn yr oes ddigidol

Beth yw’r egwyddorion allweddol sy’n sail i ehangiad cyfiawnder digidol?

Fe wnaeth y pandemig coronafeirws gyflymu’r defnydd gan lysoedd a thribiwnlysoedd o wrandawiadau ar-lein i gyflenwi cyfiawnder.  Mae’n debygol y bydd cymryd rhan mewn achosion llys o bell yn parhau. Mae’n debygol y bydd profiad diweddar yn yr awdurdodaeth hon ac awdurdodaethau eraill yn llywio trafodaethau ar sut y gellir cynnal gwrandawiadau ar-lein orau, a sut y gallant hyrwyddo a gwella mynediad i gyfiawnder a phroses effeithiol o wneud penderfyniadau. Mae’n bosib bod Comisiwn y Gyfraith mewn sefyllfa dda i weithio’n agos gyda’r Llywodraeth, GLITEM, y farnwriaeth ac eraill i gynorthwyo yn y broses o gofnodi ac ymgorffori gwersi gwerthfawr yr amseroedd hyn.

Bydd angen ystyried sut mae cyfranogiad digidol mewn achosion barnwrol yn cydfynd ag egwyddorion cyfreithiol hir sefydlog a ddatblygwyd ar gyfer oes wahanol. Er mwyn cynnal hyder y cyhoedd a’r farnwriaeth, mae’n bwysig y datblygir yr egwyddorion hyn yn unol â chynnydd technolegol. Gallai enghreifftiau gynnwys: egwyddorion a rheolau ynghylch gweithdrefn mewn llysoedd a thribiwnlysoedd; trin tystion; mynediad i wybodaeth y llys; ac amddiffyn uniondeb y broses farnwrol.

Rydym yn awyddus i glywed a oes lle i brosiect i ategu at y newidiadau hyn a’u hystyried. Er enghraifft, gallai Comisiwn y Gyfraith ymgymryd ag ymgynghoriad dwfn a chynhwysfawr â phawb sy’n gysylltiedig er mwyn nodi popeth sydd wedi gweithio’n dda a phopeth sydd heb weithio mor dda a cheisio nodi awgrymiadau penodol ar gyfer diwygio.

Mae materion amserol arall yn cynnwys a ddylai’r rhagdybiaeth bod tystiolaeth a gynhyrchir gan gyfrifiadur yn ddibynadwy oni bai y profir fel arall gael ei newid gan ystyried canfyddiadau niweidiol yn ymgyfreitha Horizon IT is-swyddfeydd y Post Brenhinol, ac a ddylai cyrff cyhoeddus fod yn atebol am gostau’r parti arall lle mae’r corff cyhoeddus yn colli wrth ymgyfreitha. Llynedd, awgrymodd un o’r barnwyr mewn achos ar y pwnc yn y Llys Apêl y gallai fod teilyngdod i’r mater gael ei ystyried gan Gomisiwn y Gyfraith. Byddem yn croesawu barnau.

Dychwelyd i’r mynegai.

Amddiffyniad Cyfreithiol i’n Hamgylchedd

A yw’r gyfraith yn amddiffyn ein hamgylchedd ac yn hyrwyddo arloesi amgylcheddol?

Bydd yr amgylchedd yn faes i ganolbwyntio arno o ran diwygio’r gyfraith dros y blynyddoedd sy’n dod. Mewn rhai meysydd, mae’n fater o dynnu rhwystrau cyfreithiol anghyfiawn i gyflawni polisi amgylcheddol, gan gynnwys deddfau anhygyrch, cymhleth neu hen ffasiwn. Mewn eraill, gallai fod yn fater o hwyluso ymyriadau a fydd yn helpu’r genedl i gyflawni ei hymrwymiadau ynghylch newid hinsawdd. Yn y cyfamser, roedd gadael yr UE yn galw am drawsosod, trwy offer statudol cymhleth ynghylch deddfau a gadwyd o’r UE, filoedd o dudalennau o reolau sy’n llywodraethu ein hamgylchedd a bywyd gwyllt tirol a morol.

Rydym yn awyddus i glywed syniadau am y maes hwn o’r gyfraith yn fwy cyffredinol ac, isod, rydym yn awgrymu’n betrus dri maes posibl y gallai fod yn werth eu harchwilio ymhellach.

Mae cyfraith glir a hygyrch yn bwysig wrth sicrhau bod pobl yn deall ac yn cydymffurfio â’u rhwymedigaethau a, lle nad ydynt, y gall asiantaethau cyhoeddus gymryd camau gorfodaeth.  Gall gormod o fanylion a chymhlethdod dywyllu’r neges; enghraifft bosibl o hyn yw’r gyfraith ar ddynodiadau ardaloedd gwarchodedig. Mae ardaloedd gwarchodedig yn darparu gwerth trwy ddiogelu treftadaeth ac amddiffyn bioamrywiaeth a hefyd maent yn ffynonellau pwysig o ddal a storio carbon, felly mae gwerth i gael dynodiadau cyfreithiol sy’n dangos eu pwysigrwydd. Ond mae’r gyfraith ar ardaloedd gwarchodedig ar hyn o bryd yn defnyddio wyth dynodiad gwahanol a amddiffynnir yn statudol, yn ogystal â phedwar dynodiad rhyngwladol a thri dynodiad anstatudol (y mae gan rai ohonynt amddiffyniad statudol). Mae hyn yn creu’r hyn a ddisgrifiwyd i ni fel “lluwchwynt o acronymau”, ac mae’n golygu bod rheolau gwahanol yn perthyn i weithgareddau a ganiateir ar safleoedd gan ddibynnu ar eu dynodiad.

Mae ein gwaith cyfredol ar Ddiogelwch Tomenni Glo yng Nghymru’n cynnwys amddiffyn yn erbyn effaith amgylchiadau tywydd eithafol. Mae ein gwaith yn y maes hwn eisoes yn amlygu meysydd lle mae’r gyfraith heb offer modern i ddelio’n synhwyrol ac yn gymesur â’r risg i’r cyhoedd. Un enghraifft yw’r gyfraith sy’n llywodraethu trefniadau ar gyfer pennu cyfrifoldeb am ddŵr wyneb a draenio, sy’n ymwneud â chymysgedd cymhleth sy’n gorgyffwrdd â pherchnogion tir cyhoeddus a phreifat, rheoleiddwyr ac awdurdodau cyhoeddus.

Yn olaf, mae gennym ddiddordeb yn y ffyrdd y gall cyfraith eiddo fod yn methu â datblygu o ran cefnogi ymdrechion amgylcheddol, neu efallai y gallai fod yn eu rhwystro. Rydym wedi clywed y gallai rhwymedigaethau ynghylch cyfraith tir preifat fod yn gorfodi perchnogion tir i gymryd camau nad ydynt er budd ehangach yr amgylchedd, er enghraifft, mewn cysylltiad ag erydu arfordirol. Yn arbennig mewn cysylltiad â’r amgylchedd adeiledig, dywedwyd wrthym y gallai cyfraith lanlordiaid a thenantiaid fod yn rhwystro defnyddio eiddo yn y modd mwyaf effeithlon i’r amgylchedd. Ac er bod “cyfamodau cadwraeth” yn cael eu cyflwyno erbyn hyn ar sail argymhellion Gomisiwn y Gyfraith, rydym yn ymwybodol bod meysydd eraill lle mae angen offer newydd ar gyfraith eiddo i gyflawni amcanion amgylcheddol.

Byddem yn croesawu barnau ar yr awgrymiadau uchod ond hefyd rydym yn ceisio syniadau eraill ynghylch sut y gall y gyfraith amddiffyn a hyrwyddo ein hamgylchedd naturiol orau.

Dychwelyd i’r mynegai.

Tir heb berchennog

A ellir rheoli tir sydd wedi’i drosglwyddo i’r Goron oherwydd nad oes ganddo berchennog yn fwy effeithiol?

Mae tir yn gallu breinio yn y Goron os nad oes gan y tir berchennog, neu os ydy’r perchennog blaenorol wedi marw a does dim etifedd i’r tir, neu os ydy cwmni wedi cael ei ddiddymu. Mae cyfreithwyr yn galw’r tir hwnnw’n “bona vacantia”. Hefyd gall tir ddychwelyd i’r Goron trwy asiedu – proses sy’n digwydd pan ddiddymir rhydd-ddaliad mewn tir, yn aml oherwydd ei fod yn cael ei ymwadu yn ystod achosion ansolfedd.

Dywedwyd wrthym am ansicrwydd ynghylch i ba raddau y gall y Goron dynnu unrhyw atebolrwydd ar gyfer tir heb berchennog. Mewn llawer o achosion, credir bod atebolrwydd yn dibynnu ar y cwestiwn a yw’r Goron yn cymryd meddiant neu’n gwneud gweithred rheoli. Ond nid yw’n glir beth sy’n golygu gweithred rheoli. O ganlyniad, gall asiantau’r Goron fod yn amharod i gyfranogi hyd yn oed mewn achosion annadleuol ynghylch y tir. Hefyd mae ansicrwyddau ynghylch pa fuddiannau mewn tir a allai oroesi asiedu, ac a fyddent yn rhwymo rhydd-ddaliad newydd yn y tir a roddir gan y Goron.  Lle mae tir yn mynd heb berchennog, gall effeithio ar gymdogion ac eraill a allai fod â buddiant mewn eiddo. Gallai adolygiad o dir heb berchennog egluro atebolrwydd y Goron a goroesiad buddiannau sy’n effeithio ar y tir, gan wella’r sefyllfa i bawb sy’n cael eu heffeithio.

Hefyd gallai prosiect gynnwys adolygiad o bwerau awdurdodau lleol i gynnal gwaith angenrheidiol ar dir heb berchennog lle mae wedi’i halogi, neu lle mae’n cynnwys strwythurau peryglus.

Dychwelyd i’r mynegai.

Gwerthiannau rhwng cyfoedion

Sut y gall y gyfraith amddiffyn unigolion sy’n defnyddio marchnadoedd ar-lein orau?

Mae trafodiadau rhwng unigolion – sy’n hysbys fel gwerthiannau rhwng cyfoedion – wedi dod yn gynyddol gyffredin â thwf marchnadaoedd ar-lein megis eBay, Facebook Marketplace, Etsy, Amazon Marketplace a hyd yn oed trwy Instagram. Mae’r rhain yn wefannau neu “apiau” wedi’u seilio ar feddalwedd lle gall unigolion brynu nwyddau a gwerthu nwyddau. Mae marchnadoedd ar-lein yn boblogaidd: Mae Which? yn amcangyfrif bod 90% o ddefnyddwyr yn y DU wedi prynu nwyddau ar farchnad ar-lein.

Er, mewn llawer o achosion, y bydd y prynwr unigol a’r gwerthwr unigol mewn trafodiad rhwng cyfoedion yn gweithredu fel “defnyddwyr” yn llygaid y gyfraith, mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn ddistaw ar y mathau hyn o werthiannau. Yn lle, llywodraethir y trafodiadau hyn gan ddeddfwriaeth arall, yn bennaf Deddf Gwerthu Nwyddau 1979. Drafftiwyd y ddeddfwriaeth honno’n bennaf ar gyfer trafodiadau busnes i fusnes yn y cyfnod cyn y rhyngrwyd ac mae’n darparu hawliau cyfyngedig iawn yn unig i brynwyr sy’n ddefnyddwyr.

Ymddengys fod y gyfraith yn aneglur (er enghraifft, ynghylch pryd y caiff unigolyn ei drin fel “masnachwr” o dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015) ac ymddengys ei bod yn darparu amddiffyniad cyfyngedig i ddefnyddiwr mewn gwerthiant rhwng cyfoedion. Er bod y platfformau eu hunain yn aml yn darparu mecanweithiau i ddatrys anghydfod, nid yw’r rhain yn amnewidiad am reolau cyfreithiol priodol. Rydym yn credu y gallai fod achos i Gomisiwn y Gyfraith ymgymryd â phrosiect yn y maes hwn. Ydych chi’n cytuno? A ydych chi wedi’ch effeithio gan golled mewn trafodiad ar farchnad ar-lein neu wedi dioddef colled o’r fath?

Dychwelyd i’r mynegai.

Atebolrwydd cynnyrch a thechnoleg sy’n dod i’r amlwg

A ddylid ymestyn y gyfundrefn atebolrwydd caeth cynnyrch i gwmpasu’r holl ddatblygiadau meddalwedd a thechnoleg eraill? 

Yn gynyddol rydym yn dibynnu ar dechnoleg yn ein bywydau dyddiol: o ffonau clyfar i MedTech; cerbydau awtomataidd i argraffu 3D. Mae gan y fath ddatblygiadau yn ein cartrefi ac yn ein bywydau y potensial i ddarparu buddion enfawr ac i drawsnewid sut rydym yn byw ac yn gweithio. Fodd bynnag, hefyd mae angen am ddeddfwriaeth gadarn i gefnogi datblygiadau o’r fath: beth fydd yn digwydd pan fydd technoleg ddiffygiol yn achosi anaf i unigolyn neu eu heiddo?

Mae Deddf Gwarchod Defnyddwyr 1987 yn diogelu defnyddwyr rhag niwed a achosir gan “gynnyrch” diffygiol, ond nid cynlluniwyd i ddarparu ar gyfer meddalwedd a datblygiadau technolegol cysylltiedig megis argraffu 3D neu beiriannau sy’n “dysgu”. Gallai bylchau yn y gyfundrefn hon olygu nad oes gan ddefnyddwyr sydd wedi’u niweidio amddiffyniad digonol, a gallai gweithgynhyrchwyr ac yswirwyr fod yn ansicr ynghylch eu hatebolrwyddau. Er enghraifft, ymddengys na fydd meddalwedd yn golygu “cynnyrch” oni bai ei bod yn cael ei chyflenwi i’r defnyddiwr ar ffurf ddiriaethol, (er enghraifft, ar USB). Mae’n annhebygol y bydd gan ddefnyddiwr a niweidir gan feddalwedd ddiffygiol a gyflenwir ar ffurf electronig (er enghraifft, ar-lein) hawliad statudol (ac felly’n gaeth) ar gyfer atebolrwydd cynnyrch.Mae rhai o’r bobl rydym wedi siarad â nhw wedi dweud y gellid dadlau bod y gwahaniaeth hwn yn ddiegwyddor ac yn annheg i ddefnyddwyr ac y dylid ei adolygu.

Rydym yn credu y gallai Comisiwn y Gyfraith ystyried y gyfundrefn statudol bresennol ar gyfer atebolrwydd cynnyrch a gwneud cynigion, lle bydd angen, i sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu hamddiffyn yn ddigonol yng nghyd-destun datblygiadau meddalwedd a thechnolegol cysylltiedig. Rydym yn croesawu’ch barnau ynghylch a oes angen adolygu a diwygio’r gyfraith yn y maes hwn.

Dychwelyd i’r mynegai.

Adolygiad o Bwerau Apelio yn y Llysoedd Troseddol

Sut allem wella cydlyniad hawliau a phwerau apelio troseddol.

O’r blaen rydym wedi codi’r posibilrwydd o ymgymryd ag adolygiad o bwerau’r Llys Apêl (Yr Adran Droseddol) (CACD). Wedi siarad eto gyda rhanddeiliaid, rydym yn parhau i gredu bod gan brosiect sy’n archwilio apeliadau troseddol deilyngdod sylweddol.

Prif ffocws y prosiect hwn fyddai ystod o ddiwygiadau technegol posibl i ddatrys y problemau a gynhyrchwyd gan newid deddfwriaethol cronnol i bwerau’r CACD dros ddegawdau.

Byddai’r prosiect yn anelu at sicrhau bod pwerau’r CACD i warantu amddiffyniad i’r cyhoedd yn ddigonol a bod gan y CACD bwerau priodol i ddelio â throseddwyr yn unol ag ewyllys Senedd y DU. Yn olaf, byddai’r prosiect yn ystyried diwygiadau gweithdrefnol i apeliadau, a allai arwain at arbedion ariannol ac effeithlonrwydd gwell.

Yn ogystal, mae cwmpas i ystyried adolygiad ehangach o’r lliaws o hawliau apelio wedi’u lledaenu ar draws deddfwriaeth y tu allan i Ddeddf Apêl Droseddol 1968 a theilyngdod rhesymoli. Hefyd mae posibilrwydd i archwilio diwygiadau i’r profion sy’n llywodraethu apeliadau yn erbyn euogfarn a dedfryd (gan y diffynnydd a chan y Twrnai Cyffredinol o dan y cynllun dedfryd rhy drugarog), a’r ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu atgyfeiriadau rhwng y CACD a’r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (CCRC), lle mae’r olaf wedi’i argymell gan Gomisiwn San Steffan i Gamweinyddiadau Cyfiawnder ac a gefnogir gan y CCRC. Hefyd mae rhanddeiliaid wedi awgrymu y gallai’r prosiect hwn gael ei ymestyn yn ddefnyddiol i ystyried sut mae Llys y Goron yn ymarfer ei allu apeliadol.

Gallai unrhyw brosiect gael ei ganolbwyntio’n sylfaenol ar ddiwygiadau annadleuol, technegol i’r gyfraith, neu gallai ymestyn i faterion mwy sylweddol. Yn y naill achos neu’r llall gallai gynhyrchu effeithlonrwyddau mawr eu hangen o fewn y llysoedd troseddol, a allai, yn ei dro, helpu i leihau ôl-groniad, a chynhyrchu arbedion sylweddol. Rydym yn croesawu barnau ar werth diwygio o’r fath a chwmpas unrhyw brosiect posibl.

Dychwelyd i’r mynegai.

Datblygiadau Technegol ac Effeithlonrwydd Gweithdrefnol yn y Llysoedd Troseddol

A yw’r gyfraith droseddol wedi cadw i fyny â newid technolegol?

Byddai’r prosiect hwn yn asesu pa mor dda mae’r llysoedd troseddol yn cadw i fyny â datblygiadau ym maes technoleg ac yn ceisio sicrhau bod y gyfraith yn caniatáu defnydd effeithlon ac effeithiol o’r cyfleoedd mae technoleg newydd yn eu cynnig. Ar yr un pryd byddai’n ceisio datrys problemau technegol yn y gyfraith sydd ynddynt eu hunain yn achosi aneffeithlonrwydd.

Mae’r pontio cynyddol gyflym sy’n digwydd mewn cyfiawnder o bell yn cael ei drafod mewn man arall. Er y bydd llawer o’r un materion yn codi yn yr awdurdodaethau sifil a throseddol, bydd pryderon arbennig o ddifrifol yn y llysoedd troseddol a allai alw am sylw ar wahân. Fel enghraifft, mae rhanddeiliaid yn dadlau nad yw’r ffordd y mae tystiolaeth tystion yn cael ei dyfynnu wedi cadw i fyny â thechnoleg fodern ac nad dyma’r ffordd fwyaf effeithiol o gynnal treialon.Felly gallai’r prosiect archwilio a ddylai prifholiad wedi’i recordio ymlaen llaw gael ei defnyddio’n ehangach, gan gynnwys recordio datganiadau tystion gan swyddogion heddlu sy’n defnyddio camerâu a wisgir ar y corff.

Mae’n bwysig sylwi, er y byddai’r prosiect hwn yn ceisio gwella gweinyddu cyfiawnder troseddol yn effeithlon, byddai hefyd yn cael ei lywio gan yr angen i sicrhau bod hawliau’r rhai sy’n cymryd rhan mewn gwrandawiadau, a rheol gyfreithiol, yn cael eu hamddiffyn yn briodol.

Byddem yn gwerthfawrogi barnau ymgyngoreion ar y materion a godir gennym yma, ac unrhyw faterion eraill y maent yn ymwybodol ohonynt naill ai o ran sut mae technoleg yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd yn y llysoedd, cyfleoedd sy’n cael eu methu, ac arferion aneffeithlon sydd angen ateb deddfwriaethol.

Dychwelyd i’r mynegai.

Chwilio, Cynhyrchu ac Atafaelu Deunydd Electronig

A yw’r gyfraith yn darparu ar gyfer y rôl gynyddol y mae tystiolaeth electronig yn ei chwarae mewn ymchwiliadau ac erlyniadau troseddol?

Mae gan Gomisiwn y Gyfraith hanes o weithio i fynd i’r afael â goblygiadau cyfreithiol technoleg newydd a thechnoleg sy’n dod i’r amlwg. Fe wnaeth ein prosiect ar warantau chwilio a gwblhawyd yn ddiweddar nodi bod tystiolaeth a deunydd electronig yn fwyfwy pwysig mewn ymchwiliadau ac erlyniadau troseddol. Yn yr adroddiad hwnnw, fe wnaethom argymhellion a oedd yn ymwneud yn benodol â deunydd electronig a gwarantau chwilio. Mae’r Llywodraeth yn ystyried yr argymhellion yma a rydym yn disgwyl clywed nôl ganddynt maes o law. Fe wnaethom hefyd nodi nad yw’r deddfau sy’n llywodraethu chwilio, cynhyrchu ac atafaelu deunydd electronig ar hyn o bryd yn addas i’r diben.

Nid yw’n glir a oes gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith y pwerau sydd eu hangen i ymchwilio i droseddau a chael tystiolaeth, yn arbennig dramor, ac a oes mesurau diogelu digonol yn bodoli i sicrhau bod y defnydd o bwerau’n briodol.

Yn ein barn ni mae nifer o bynciau’n galw am archwiliad pellach, a gellid gwneud hyn mewn prosiect unigryw. Yn gyntaf, dymunoldeb pwerau i chwilio dyfeisiau electronig nad yw’n dibynnu ar safleoedd, neu i chwilio data electronig yn uniongyrchol. Yn ail, gweithrediadau adrannau 19(4) ac 20(1) Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, sy’n caniatáu i gwnstabl fynnu bod data electronig sy’n hygyrch o safleoedd yn cael eu dangos. Yn drydydd, i ystyried a oes angen gwaith pellach ar reoleiddio dyfeisiau echdynnu data i adeiladu ymhellach ar yr echdynnu data’n gydsyniol o ddyfeisiau achwynwyr, tystion ac eraill, sydd eisoes yn cael ei ystyried gan Senedd y DU yn y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd.

Byddai’r prosiect yn ystyried sut y gellid diweddaru a symleiddio’r gyfraith sy’n llywodraethu caffael a thrin deunydd electronig mewn ymchwiliadau troseddol. Gellid archwilio’n fanwl a ddylid gwneud hyn trwy ailraddnodi’r fframwaith cyfreithiol presennol neu drwy gael pwerau a mesurau amddiffyn newydd trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol.

Dychwelyd i’r mynegai.

Llyfr statud y DU

Beth ydy’r ffordd orau i wella eglurder a chydlyniad?

Mae cyfraith Ewrop a’r DU wedi cydfodoli ers 1973, ond mae’r broses o adael yr UE wedi golygu bod rhaid i lawer iawn o gyfraith yr UE gael eu cyflwyno i system gyfreithiol y DU. Er bod rhai addasiadau wedi’u gwneud i gyfraith yr UE fel rhan o’r broses hon, mae nifer o randdeiliaid eisoes wedi dweud wrthym fod angen mwy o waith. Gallai anghysondebau rhwng cyfraith a gedwir o’r UE a chyfraith ddomestig a chymhlethdod strwythurol diangen yn y darpariaethau sydd newydd eu cyfuno gael canlyniadau ymarferol niweidiol. Mae peryglon o ran hygyrchedd a thryloywder y gyfraith, a risg o ansicrwydd busnes ac ymgyfreitha. Gallai’r anghysondebau fod o ganlyniad i densiynau hirsefydlog rhwng cysyniadau neu ymagweddau cyfreithiol yr UE a’r DU; neu efallai eu bod wedi’u hachosi gan y broses o ychwanegu swm enfawr o ddeunydd i gyfraith y DU o fewn cyfnod cymharol fyr.

Nawr bod gan y DU reolaeth ar yr holl ddeddfwriaeth berthnasol, mae cyfleoedd i ddod â mwy o gydlyniad i’r meysydd deddfwriaeth ddomestig sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan adael yr UE. Rydym yn cydnabod y bydd adrannau unigol y llywodraeth eisoes wedi nodi meysydd penodol â blaenoriaeth uchel sydd angen eu diwygio. Gallai Comisiwn y Gyfraith ystyried prosiect trosfwaol i ymchwilio i feysydd lle mae gan atgweirio deddfwriaethol y potensial i gyflwyno’r buddion mwyaf, gan weithio’n agos gyda Swyddfa’r Cwnsleriaid Seneddol ac Adran Gyfreithiol y Llywodraeth. Efallai y byddai gwaith o’r fath yn nodi, yn thematig, feysydd blaenoriaethol y gyfraith sydd angen eu rhesymoli, a fyddai, yn ei dro, yn helpu i osod platfform cadarn ar gyfer datblygu’r gyfraith yn y dyfodol. Fel arall gallai fod meysydd penodol yng nghyfraith a gedwir o’r UE y gellir eu nodi eisoes fel rhai sydd angen eu diwygio.

Dychwelyd i’r mynegai.