Fel sefydliad ymgynghorol, mae Comisiwn y Gyfraith wedi trin ei gyfrifoldeb i ymdrinio â data personol yn ddifrifol bob amser.

Mae’r gofynion newydd o dan y RhDDC (Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol) wedi rhoi ffocws newydd ar yr agwedd bwysig hon o’n gwaith, ac o ganlyniad, rydym wedi gosod allan yn fanwl sut rydym yn prosesu ac yn storio data personol.

Rydym hefyd wedi gosod allan adolygiad o’n ddatganiad preifatrwydd yn llawn. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni ar: enquiries@lawcommission.gov.uk

Hysbysiad Preifatrwydd

Dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (Mai 2018), rhaid i Gomisiwn y Gyfraith ddatgan y seiliau cyfreithiol am brosesu data personol. Mae gan y Comisiwn swyddogaeth statudol, sydd wedi ei nodi yn y Ddeddf 1965, i dderbyn ac ystyried unrhyw gynigion i ddiwygio’r gyfraith, gan gynnwys rhai a wnaed neu cyfeiriwyd atom. Mae’r angen hwn i ymgynghori’n eang yn galw arnom i brosesu data personol er mwyn bodloni ein swyddogaethau statudol yn ogystal â berfformio tasg, sef diwygiad o’r gyfraith, sydd er budd y cyhoedd. Rydym felly yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol a ganlyn:

(c) Rhwymedigaeth gyfreithiol: mae prosesu yn hanfodol er mwyn cydymffurfio gyda’r rhwymedigaeth gyfreithiol y mae’r rheolwr yn ddarostyngedig iddo

(e) Tasg gyhoeddus:  mae prosesu yn hanfodol er mwyn perfformio tasg a wneir er lles y cyhoedd neu wrth weithredu’r awdurdod swyddogol sydd wedi ei freinio i’r rheolwr.

Gan amlaf mae prosiectau Comisiwn y Gyfraith yn hirfaith ac yn aml bydd yr un rhan o’r gyfraith yn cael ei hystyried ar fwy nag un achlysur. Bydd y Comisiwn, felly, yn cadw data personol yn unol â’n polisïau cadw a dileu, trwy ffeilio copi caled, ffeilio electronig ac ar gronfa data pwrpasol rheoli rhanddeiliaid oni bai ein bod yn derbyn cais i wneud fel arall. Byddwn yn defnyddio data personol at y dibenion a amlinellir uchod yn unig.

Gallwn gyhoeddi neu ddatgelu gwybodaeth a chyflwynwyd ganddoch wrth ymateb i bapurau Comisiwn y Gyfraith, gan gynnwys gwybodaeth bersonol. Er enghraifft, gallwn gyhoeddi darn o’ch ymateb yng nghyhoeddiadau Comisiwn y Gyfraith neu gyhoeddi’r ymateb yn ei gyfanrwydd. Gallwn hefyd rannu unrhyw ymatebion a dderbyniwn gyda’r Llywodraeth. Yn ogystal â hyn, mae yna bosibilrwydd y bydd rhaid i ni ddatgelu’r wybodaeth, megis yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Os dymunwch i’r wybodaeth y rydych yn ei chyflwyno cael ei thrin yn gyfrinachol, yna cysylltwch â ni yn y lle cyntaf, ond ni allwn roi sicrwydd ein bod yn gallu cynnal cyfrinachedd ymhob amgylchiad. Ni fydd ymwadiad awtomatig a grëir gan eich system TG yn cael ei ystyried yn gyfrwymol ar Gomisiwn y Gyfraith. Bydd Comisiwn y Gyfraith yn prosesu eich data personol yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, a ddaeth i rym ym Mai 2018.

Dylid cyfeirio unrhyw bryderon ynghylch cynnwys yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn at: enquiries@lawcommission.gov.uk